Grŵp 6: Gweithdrefn y Senedd a’i phroses ar gyfer gwneud rheoliadau (Gwelliannau 85, 87, 88, 89, 96, 105, 106, 107, 108, 109, 66, 110, 111, 118)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:10, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau gyda gwelliant 66, sy'n fân welliant technegol yr wyf i wedi ei gyflwyno i ddileu cyfeiriad at adran 140 y Bil at rym gwneud rheoliadau y darparwyd ar ei gyfer yn flaenorol yn adran 33(1) y Bil yng ngoleuni ei ddileu yn ystod trafodion Cyfnod 2, a chroesawaf gefnogaeth Laura Anne Jones i'r gwelliant hwnnw. 

Mae'r rhan fwyaf o'r gwelliannau sy'n weddill yn y grŵp hwn yn ailadrodd y rhai a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2. Mae gwelliant 85 yn ei gwneud yn ofynnol i gyfarwyddiadau cyffredinol o dan adran 21 y Bil gael eu gwneud drwy offeryn statudol, tra bod gwelliant 107 yn gwneud yr OS yn destun gweithdrefn gadarnhaol y Senedd. Mae'r cyfarwyddyd grym cyffredinol yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau i'r comisiwn o ran materion penodol a nodir ar wyneb y Bil, ac mae gwelliant 106 yn ganlyniadol i welliant 107. Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn ymwneud ag un corff a materion penodol, ac nid ydyn nhw'n darparu ar gyfer deddfu cyffredinol o natur ehangach. Bydd y gofyniad i gyhoeddi'r cyfarwyddyd, i hysbysu'r Senedd amdano a gosod copi o'r cyfarwyddiadau gerbron y Senedd yn sicrhau hygyrchedd a thryloywder unrhyw gyfarwyddiadau. Felly, rwy'n gwrthod gwelliannau 85, 106 a 107, a galwaf ar yr Aelodau i wneud yr un fath.

Rwyf i hefyd yn gwrthod gwelliannau 108 a 109, sy'n gwneud rheoliadau a wneir o dan adran 25(2) a 25(8) yn destun gweithdrefn gadarnhaol y Senedd, tra bod gwelliant 110 yn gwneud yr un ddarpariaeth o ran rheoliadau a wneir o dan adran 41(2) a 43(13). Neilltuwyd gweithdrefn negyddol y Senedd i'r rheoliadau hyn gan fod sylwedd y ddarpariaeth wedi'i gyflwyno yn eglur ar wyneb y Bil. Mae'r rheoliadau hyn yn rhagnodi materion technegol a gweinyddol y gallai fod angen eu diweddaru o bryd i'w gilydd, neu wneud darpariaethau trosiannol neu arbed. Felly, mae'r weithdrefn negyddol yn briodol o ran pob un o'r pwerau gwneud rheoliadau hyn.

Nid wyf i'n cefnogi gwelliant 111, sy'n cymhwyso gweithdrefnau cadarnhaol y Senedd i reoliadau a wneir o dan adran 143, sy'n ymdrin â materion fel gwelliannau canlyniadol neu ddarpariaeth ddeilliadol neu drosiannol o ran is-ddeddfwriaeth. Mae hyn yn anghymesur ac yn ddiangen, gan fod darpariaeth o'r fath, o ran is-ddeddfwriaeth, yn dechnegol yn ôl ei natur, ac nid yw'n cyflawni newidiadau polisi sylweddol. 

Rwy'n gwrthod gwelliant 118, sy'n cael gwared ar allu Gweinidogion Cymru i wella, addasu, diddymu neu ddirymu deddfiad o ganlyniad i ddarpariaethau'r Bil, neu i roi effaith lawn iddyn nhw. Heb y grym hwn, bydd angen deddfwriaeth sylfaenol bellach i wneud unrhyw welliant canlyniadol a ddaw i'r amlwg yn ôl yr angen ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Er mai grym Harri VIII yw hwn yn dechnegol, mae ei ddefnydd wedi'i gyfyngu i ddarpariaethau o ganlyniad i ddarpariaethau'r Bil, neu i roi effaith lawn iddyn nhw. Byddai'n anarferol iawn i ddeddfwriaeth sylfaenol beidio â chynnwys grym o'r fath, ac mae peri'r risg na fydd y ddeddfwriaeth yn gweithredu fel y bwriadwyd. Pan ddefnyddir y grym i wella neu addasu deddfwriaeth sylfaenol, mae'n destun gweithdrefn gadarnhaol y Senedd.

Nid oes angen gwelliannau 87, 88, 89 a 96. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori'n ffurfiol fel mater o drefn wrth baratoi is-ddeddfwriaeth, ac rydym ni'n cyhoeddi adroddiadau cryno ar ôl i'r ymgynghoriadau hyn ddod i ben. Fel y dywedais i, Llywydd, mae'r holl bwerau gwneud rheoliadau wedi cael eu hystyried yn llawn gan weithredu gweithdrefn briodol y Senedd, gan alluogi'r Senedd i graffu ar yr is-ddeddfwriaeth, ac nid wyf i o'r farn bod angen darparu gofyniad statudol i gyhoeddi rheoliadau drafft cyn i'r rheoliadau gael eu gosod neu eu gwneud. Ac felly, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant 66, a gyflwynwyd yn fy enw i, ac i wrthod yr holl welliannau eraill.