Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Hoffwn siarad am fy ngwelliannau fy hun yn gyntaf. Diben gwelliant 85 a sawl un arall yn y grŵp yw ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru gael ei wneud drwy offeryn statudol, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, a gwneud hynny dim ond ar ôl ymgynghori â phwyllgor perthnasol y Senedd. Mae hyn yn unol ag argymhelliad 21 y pwyllgor ac â chynnal sefyllfa hyd braich wirioneddol gan sicrhau y cedwir y cydbwysedd priodol o ran unrhyw gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru.
Mae gwelliannau 87 i 89 a 96 yn ddiwygiadau treiddgar y bwriedir iddyn nhw annog eglurhad ynghylch dynodiad unrhyw ddarparwyr addysg drydyddol eraill ac ymgynghori â chyrff priodol.
O ran gwelliant 105 a'i elfennau amodol, rwy'n ailgyflwyno'r gwelliant i newid y pwerau o dan adran 138 i'r weithdrefn gadarnhaol. Mae fy ngrŵp a minnau yn dal i fod o'r farn ei bod yn gamgymeriad rhoi'r weithdrefn yn y negyddol, o ystyried nifer y rheoliadau negyddol a gyflwynwyd drwy gydol y Bil a'i effaith ganlyniadol ar graffu'r Senedd.
Mae gwelliant 108 hefyd yn gweithredu fel gwelliant treiddgar i geisio cael eglurder ar y categorïau cofrestru ac ymgynghori â chyrff priodol.
O ran gwelliant 111, rwy'n ailgyflwyno'r gwelliant hwn fel rhagofal i sicrhau y ceir gwared ar bwerau Harri VIII ac i ail-bwysleisio fy ngwrthwynebiad i a Phrifysgol Caerdydd i elfennau o'r fath yn y ddeddfwriaeth.
Yn olaf, o ran gwelliant 118, rwyf i hefyd yn ceisio yn hyn o beth gwneud grym gwneud rheoliadau o dan adran 143 yn destun gweithdrefn gadarnhaol, yn ogystal â dileu pwerau Harri VIII.
O ran gwelliant y Gweinidog, rwy'n fodlon cefnogi'r gwelliant hwn gan fy mod i'n deall ei fod yn gymoni angenrheidiol ar gyfer y Bil. Diolch.