Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cefnogi gwelliant 78 a gyflwynwyd gan Sioned Williams. Rwy'n credu bydd y gwelliant yn mynd i'r afael, fel gwnaeth hi sôn, â'r pryderon a godwyd gan randdeiliaid ac argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch tryloywder mewn perthynas ag arfer pwerau cyllido'r comisiwn, ac rwy'n falch fy mod i wedi gallu gweithio gyda Sioned i ddrafftio'r gwelliant hwn er mwyn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad y gwnes i yng Nghyfnod 2 yng ngoleuni sylwadau ac argymhellion y pwyllgor.
Bydd ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn ymgynghori ar ddatganiad o'i bolisi cyllido a'i gyhoeddi, gan roi sylw i'r egwyddor y dylid gwneud penderfyniadau cyllido mewn ffordd sydd yn dryloyw, yn helpu i sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael gwybod am sut y mae'r comisiwn yn bwriadu arfer ei swyddogaethau cyllido mewn perthynas â'r ystod lawn o ddarpariaeth addysg drydyddol ac o ran ymchwil ac arloesi.
Jest i ymateb i'r cwestiwn gan Hefin David, rwy'n rhagweld y byddai'r ymgynghoriad o dan y ddyletswydd newydd hon yn cynnwys y telerau a'r amodau y mae'r comisiwn yn bwriadu eu gosod ar ei holl gyllid.
Gan ystyried y newidiadau a wnaed gan welliant 78, mae gwelliant 31 yn dileu gofyniad i'r comisiwn ymgynghori cyn pennu'r telerau ac amodau sy'n gymwys i'w gyllid addysg uwch. Mae gwelliant 31 yn darparu ar gyfer dull cydlynol o gymhwyso telerau ac amodau cyllido gan y comisiwn drwy gydol y Bil drwy ddileu darpariaeth nad oes ei hangen mwyach yn sgil y ddyletswydd ymgynghori ehangach o dan welliant 78.
Mae gwelliant 58 yn fy enw i, ond yn adlewyrchu trafodaethau adeiladol gyda Laura Anne Jones—ac rwy'n diolch iddi am ei chydweithrediad—yn mynd i'r afael ag argymhelliad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'r Bil ddarparu dull mwy cyson ac eang o ymdrin â dyletswyddau cyfle cyfartal ac ehangu mynediad ar gyfer pob rhan o'r sector ôl-16, ac nid darparwyr cofrestredig yn unig.
Mae'r gwelliant hefyd yn mynd ymhellach na'r argymhelliad, gan greu mwy o gysondeb o ran goruchwyliaeth reoleiddiol y comisiwn o ddarparwyr cofrestredig a darparwyr nad ydynt wedi cofrestru. Mae'n cyflawni hyn drwy ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn ystyried gosod telerau ac amodau ar ei gyllid i ddarparwyr nad ydynt wedi cofrestru mewn perthynas â materion a nodir yn yr amodau cofrestru gorfodol parhaus o dan Ran 2 o'r Bil.
Rhaid i'r comisiwn wrth bennu telerau ac amodau sydd i'w gosod ar ei gyllid i ddarparwyr nad ydynt wedi'u cofrestru ystyried a ddylid gosod gofynion yn ymwneud ag ansawdd, effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli'r darparwr, cynaliadwyedd ariannol, effeithiolrwydd trefniadau'r darparwr ar gyfer cefnogi a hyrwyddo lles i fyfyrwyr a'u staff, a chyflawni canlyniadau mesuradwy mewn perthynas â nodau cyfle cyfartal.
Nid yw'r gwelliant yn mandadu pa delerau ac amodau y dylid eu cymhwyso. Mae'n briodol ei fod e'n rhoi i'r comisiwn reolaeth dros ei delerau ac amodau ei hun, oherwydd gall yr hyn sy'n briodol mewn perthynas â grant mawr, rheolaidd fod yn ddiangen ac yn rhy feichus ar gyfer trefniant cytundebol bach, ad hoc. Y comisiwn fydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar yr amodau penodol ar gyfer ffrwd gyllido benodol.
Gyda'i gilydd, mae gwelliannau 31 a 58 yn gwella cydlyniaeth ar draws y Bil, yn sicrhau triniaeth decach i ddarparwyr cofrestredig a darparwyr nad ydynt wedi'u cofrestru, ac yn rhoi'r hyblygrwydd angenrheidiol i'r comisiwn deilwra'r telerau ac amodau fel eu bod yn gymesur, yn briodol ac yn rhesymol, yn dibynnu ar amgylchiadau penodol trefniant cyllido penodol. Rwy'n galw felly ar Aelodau i gefnogi pob gwelliant yn y grŵp hwn.