Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Rwy'n codi i siarad i welliant 78, sef yr unig welliant yn y grŵp hwn. Un o egwyddorion canolog y Bil hwn yw ceisio chwalu ffiniau rhwng gwahanol rannau o'r sector addysg ôl-16, sydd yn hanesyddol wedi cael eu gweld yn ynysig oddi ar ei gilydd. Fodd bynnag, yn naturiol, efallai, mae pryder yn dod gyda symudiad tuag at system mwy cyfannol, ac fe glywyd hynny yn ystod ein gwaith fel Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gyda rhai rhanddeiliaid yn galw am gyflwyno egwyddor ariannu cytbwys neu balanced funding principle ar wyneb y Bil, fyddai'n ddyletswydd cyffredinol ar y comisiwn arfaethedig i sicrhau bod yna gydbwysedd rhwng gwahanol swyddogaethau addysg drydyddol y comisiwn a'i swyddogaethau ymchwil ac arloesedd.
Mae'n ddealladwy bod pryder y gallai ariannu darpariaeth addysg drydyddol rheng flaen gael ei flaenoriaethu ar draul gwaith ymchwil ac arloesi, yn enwedig pan fo'r esgid yn gwasgu a chyllidebau yn dynn. Fodd bynnag, y perygl drwy osod egwyddor o'r fath fel dyletswydd gyffredinol yn y ddeddfwriaeth yw y gallai filwrio yn erbyn y nod o gael gwell golwg gyfannol yn y tirwedd ôl-16.
Gan gydnabod y pryderon hyn i gyd, felly, pwrpas gwelliant 78 yw rhoi adran newydd i mewn i'r Bil sy'n mynd peth o'r ffordd i ateb y pryderon hyn a sicrhau tryloywder ym mhenderfyniadau ariannu'r comisiwn. Mae'n cyflawni hyn drwy olygu y bydd angen i'r comisiwn baratoi datganiad ar ei bolisi ynghylch sut y bydd yn defnyddio ei bwerau ariannu ac y bydd gofyn iddo roi sylw i'r egwyddor bod angen gwneud penderfyniadau ariannu mewn modd tryloyw. Yn ymarferol, bydd angen iddo ymgynghori hefyd cyn cyhoeddi datganiad neu ddatganiad diwygiedig. Disgwyliwn, felly, y bydd modd gweld yn glir effaith bwriadau ariannu'r comisiwn ar ei wahanol swyddogaethau, ac y gall y rheini sydd â diddordeb neu bryderon leisio eu barn drwy'r ddyletswydd i ymgynghori. Rydym ni o'r farn, felly, fod y gwelliant hwn yn taro'r cydbwysedd cywir ac yn cryfhau'r Bil drwy sicrhau mwy o dryloywder.