Grŵp 10: Cydsyniad i gyrff sy’n cydlafurio (Gwelliannau 23, 24, 25, 26. 27, 28, 29, 30, 35, 36, 44, 45, 46, 52, 53, 54, 55, 56, 57, 59, 60, 61, 62)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:36, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch Llywydd. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn mynd i'r afael â phryderon rhanddeiliaid ac argymhelliad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch darpariaethau sy'n ymdrin â chydsyniad ar gyfer trosglwyddo arian i gyrff sy'n cydlafurio. Yng Nghyfnod 2 eglurais na fyddai dileu'r darpariaethau hyn yn eu cyfanrwydd yn briodol gan fod angen o hyd i sicrhau bod cyllid sy'n cael ei drosglwyddo o ddarparwyr a ariennir yn uniongyrchol i gyrff eraill yn ddarostyngedig i reolaethau priodol. Mae sicrhau bod gennym ddarpariaeth cydsyniad cyffredinol yn adlewyrchu'r arferion gorau posibl, gan ganiatáu'r amodau cywir ar gyfer arloesi a phartneriaethau, gan gadw'r amddiffyniadau trosfwaol angenrheidiol ar waith. Rwyf o'r farn bod y gwelliannau yr wyf wedi'u cyflwyno heddiw yn ymateb i bryderon rhanddeiliaid a'r pwyllgor, gan fynd i'r afael â'r potensial ar gyfer biwrocratiaeth anfwriadol gan gadw'r diogelwch angenrheidiol o ran arian cyhoeddus ac, o ganlyniad i hynny, diogelu dysgwyr a'r sector addysg drydyddol.

Mae gwelliannau 23 i 30, 35 a 36, 44 i 46, 52 i 54, a 56 a 57 yn egluro bod yn rhaid rhoi cydsyniad cyn trosglwyddo arian gan ddarparwr a ariennir o dan Ran 3 o'r Bil i gorff sy'n cydlafurio, ac y gellir rhoi cydsyniad o'r fath mewn cysylltiad â chorff y mae'r darparwr a ariennir yn uniongyrchol yn bwriadu cydweithio ag ef, yn ogystal â'r rhai y mae'r darparwr eisoes yn cydweithio â nhw neu wedi cydweithio â nhw.

Mae gwelliant 59 yn dileu'r pŵer o adran 107 o'r Bil i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau, gan bennu'r materion y mae'n rhaid i'r comisiwn eu hystyried wrth benderfynu a ddylid cydsynio i drosglwyddo arian gan ddarparwr a ariennir yn uniongyrchol i gorff sy'n cydlafurio. Mae'r gwelliant hwn hefyd yn egluro y gall y comisiwn roi cydsyniad yn gyffredinol, neu mewn cysylltiad â thaliad penodol neu gorff cydlafurio penodol. Mae gwelliant 55 yn ganlyniadol i welliant 59.

Mae gwelliannau 60 i 62 yn mireinio adran 107 o'r Bil. Maen nhw'n diogelu'r defnydd o arian cyhoeddus ac yn rhoi hyblygrwydd o ran sut y gall y comisiwn roi ei gydsyniad i basio arian. Mae'r newidiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn gymhwyso amod i'w gydsyniad sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr a ariennir yn uniongyrchol wneud trefniadau sy'n sicrhau bod adnoddau ariannol a delir i gorff sy'n cydlafurio yn cael eu rheoli'n effeithlon ac mewn ffordd sy'n rhoi gwerth am arian.

Mae'r newidiadau hyn hefyd yn egluro, pan fo caniatâd wedi'i roi'n gyffredinol, y gall y comisiwn dynnu'n ôl, atal neu amrywio ei gydsyniad yn gyffredinol, neu mewn cysylltiad â thaliad penodol i gorff penodol sy'n cydlafurio. Mae'r amddiffyniadau presennol mewn cysylltiad â thynnu'n ôl, atal dros dro neu amrywio caniatâd yn parhau, gan ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn roi hysbysiad i ddarparwyr a rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir yn unol â'r hysbysiad.

Yn gyffredinol, mae'r diwygiadau yn y grŵp hwn yn cynyddu ymreolaeth y comisiwn i benderfynu ar drefniadau cydsynio priodol drwy ganiatáu i gydsyniad gael ei roi yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â thaliad penodol neu gydlafurio penodol; egluro y gall darparwyr ofyn am gydsyniad y comisiwn i drosglwyddo arian i gyrff sy'n cydlafurio y maen nhw'n cydweithio â nhw eisoes, neu wedi cydweithio â nhw yn y gorffennol, neu'n bwriadu cydweithio â nhw yn y dyfodol; a sicrhau diogelwch ar gyfer defnyddio arian cyhoeddus. Felly, Llywydd, galwaf ar Aelodau i gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.