Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 33 yn addasu pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 91 o'r Bil i ariannu ystod gyfyngedig o gyrsiau addysg uwch er mwyn eu galluogi i ddarparu adnoddau eu hunain neu i wneud trefniadau gyda phersonau eraill, naill ai'n unigol neu ar y cyd, i ariannu'r ddarpariaeth o gyrsiau perthnasol yn yr un modd ag y darperir ar eu cyfer ar hyn o bryd o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000. Mae cyrsiau addysg uwch y gellir eu hariannu yn cynnwys y rhai sy'n paratoi ar gyfer arholiadau proffesiynol ar lefel uwch, er enghraifft cyrsiau nad ydynt yn raddau ac sy'n arwain at gymwysterau a achredir gan gyrff proffesiynol. Gallai'r rhain gynnwys cymwysterau sy'n berthnasol i iechyd a gofal cymdeithasol neu gymwysterau sy'n benodol i'r diwydiant sy'n diwallu angen cymdeithasol neu'n gwella rhagolygon am gyflogaeth.
Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau bod pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 91 yn cyd-fynd â'u pwerau i ariannu addysg bellach a hyfforddiant o dan adran 96 o'r Bil. Gyda'i gilydd, bydd y pwerau hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru barhau i ariannu ymyraethau cyflogadwyedd yn yr un modd ag ar hyn o bryd. Mae angen y gwelliant hwn gan y rhagwelir y bydd angen i Weinidogion Cymru ddibynnu ar adran 91 o'r Bil i ariannu cyrsiau penodol ar lefelau 4 a 5 o'r fframwaith credydau a chymwysterau i Gymru o fewn rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Gall rhai agweddau ar y rhaglenni hyn gael eu hariannu drwy drefniadau gyda thrydydd partïon.
Mae gwelliannau 32 a 34 yn ganlyniadol i welliant 33. Gwrthodaf welliannau 90 i 95 ac argymhellaf yn gryf i'r Aelodau wneud hynny hefyd. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio cyfyngu ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan adrannau 96, 99 a 102 o'r Bil, sy'n bwerau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu dal ar yr un pryd â'r comisiwn. Bydd y pwerau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau adnoddau ariannol mewn cysylltiad ag addysg bellach a hyfforddiant, ymgymryd â phrofion cymhwysedd mewn cysylltiad â'u pwerau o dan adran 96(1)(d) neu (e), ac ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag addysg drydyddol. Un o ddibenion allweddol cadw'r pwerau ariannu hyn i Weinidogion Cymru yw'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau newydd, a gadarnhaodd y bydd yr holl raglenni cyflogadwyedd a arweinir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu darparu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, o dan un model gweithredu newydd o 2023 ymlaen.
Mae rhaglenni cyflogadwyedd yn amrywio. Er enghraifft, mae Cymunedau am Waith yn darparu gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned a gwasanaethau mentora. Yr un peth sydd gan y rhan fwyaf o raglenni cyflogadwyedd yn gyffredin yw eu bod yn canolbwyntio ar gael gwaith a dileu rhwystrau rhag cyflogaeth. Mae'r diwygiadau'n ceisio cyfyngu ar arfer pwerau Gweinidogion Cymru i ddarparu trefniadau cyflogadwyedd. Mae'r dull hwn yn anymarferol a byddai'n creu anawsterau o ran arfer swyddogaethau ariannu Gweinidogion Cymru ac mae'n debyg y byddai'n arwain at ganlyniadau anfwriadol, a fyddai'n effeithio'n negyddol ar bobl Cymru yr ydym yn ceisio'u cefnogi drwy'r rhaglenni hynny.
Llywodraeth Cymru sydd yn y sefyllfa orau i reoli cysylltiadau rhynglywodraethol yn uniongyrchol ar raglenni cyflogadwyedd ac i weithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill i lunio ymateb cydgysylltiedig yng Nghymru o fewn ei phwerau presennol. Mae ar Weinidogion Cymru angen hyblygrwydd wrth gymhwyso eu pwerau ariannu mewn cysylltiad ag addysg bellach a hyfforddiant, trefniadau cymhwysedd a darparu cyngor, gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud ag ymyraethau cyflogadwyedd. Byddai gwelliannau 91 i 95 yn dileu'r hyblygrwydd hwn. Dylwn ddweud hefyd, fel y'i drafftiwyd, yn ogystal, na fyddai'r gwelliannau'n cael eu diogelu at y dyfodol yn erbyn newidiadau i barth gwefan Llywodraeth Cymru.
Bydd cadw'r pwerau ariannu hyn hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ariannu ymyraethau a chynlluniau treialu penodol, ac mae enghraifft ohonyn nhw yn cynnwys prentisiaethau iau. Ymyrraeth 14 i 16 yw'r rhain sy'n cefnogi dysgwyr sydd wedi ymddieithrio drwy ganiatáu mynediad cynnar i lwybrau dysgu galwedigaethol yn eu coleg lleol. Ariennir hyn yn bennaf gan y gyllideb ysgolion, ond mae'n cynnwys cyllid atodol yn uniongyrchol gan Weinidogion Cymru i ddarparwyr addysg bellach. Galwaf felly ar Aelodau i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i ac i wrthod yr holl welliannau eraill.