Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 21 Mehefin 2022.
I ymateb i'r pwynt a wnaeth Laura Anne Jones, rwy'n credu fy mod yn fy sylwadau agoriadol yn glir iawn ynghylch natur benodol y pwerau hyn. Maen nhw'n benodol iawn. Maen nhw'n ymwneud yn benodol â rhaglenni cyflogadwyedd a, hebddyn nhw, byddai ein gallu i gyflwyno'r rhaglenni hynny mewn perygl. Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliannau ar wahân i'r rhai yn fy enw i.