Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Ymhlith y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru mae diwygio'r contract deintyddol i wella mynediad at ofal y GIG. Er gwaethaf honiadau i'r gwrthwyneb, bydd dros 90 y cant o ddeintyddiaeth a ariennir gan y GIG yn etholaeth yr Aelod yn awr yn cael ei darparu gan bractisau sydd wedi dewis mabwysiadu'r contract newydd.