Datblygu Tai yng Nghaerdydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 1:35, 21 Mehefin 2022

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn i ddarllen yr adroddiad ynglŷn â chreu metro rhwng Llantrisant a Chaerdydd, a dwi'n cytuno yn llwyr â chi, ac â'r Cwnsler Cyffredinol, am bwysigrwydd hynny. Y drafferth yw, wrth gwrs, ei bod hi'n mynd i gymryd 10 mlynedd i'w adeiladu, ac, fel y gwyddoch chi, mae miloedd o bobl wedi symud i dai newydd yng ngogledd y ddinas, a driveways y tai yma â nifer o geir. Dyw'r ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ddim yn ddigonol yno o gwbl. Pryder arall sydd wedi codi'n ddiweddar gyda thrigolion yng ngogledd Caerdydd yw'r orsaf bwmpio carthion newydd ym mharc hanesyddol Hailey. Sut mae modd, Brif Weinidog, sicrhau bod darpariaethau angenrheidiol mewn lle cyn adeiladu datblygiadau mawr newydd? Diolch yn fawr.