Gofal Iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:32, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Sam Kurtz? Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaeth ar ddiwedd y cwestiwn yna. Mae wedi bod yn thema i mi, byth ers i mi fod yn Weinidog iechyd, fod yn rhaid i ddyfodol gofal sylfaenol yng Nghymru fod yn dîm o weithwyr proffesiynol, sy'n aml yn gweithredu o dan oruchwyliaeth y meddyg teulu, yr unigolyn â'r lefel uchaf o gymwysterau yn y tîm hwnnw, ond pryd mae'r holl aelodau hynny, y fferyllwyr ac eraill y soniodd amdanyn nhw, yn gwbl alluog yn glinigol i ddarparu gwasanaethau'n uniongyrchol i'r cleifion, ac weithiau'n gyflymach ac weithiau hyd yn oed yn fwy effeithiol na all y cyffredinolwr, y meddyg teulu, ei wneud. Felly, rwy'n llongyfarch y meddygon teulu yn llwyr yn y feddygfa y mae Sam Kurtz wedi'i chrybwyll. Rwy'n eu llongyfarch am gael y grŵp cyfranogiad cleifion hwnnw. Rydym wedi trafod hynny ar lawr y Senedd sawl gwaith, gan feddwl tybed a ddylem, ar fodel ein cynghorau ysgol, ddisgwyl y dylai pob practis meddyg teulu gael fforwm lle maen nhw'n dysgu'n uniongyrchol o safbwyntiau a phrofiadau eu cleifion. Rwy'n credu y tro diwethaf i ni ymweld â hyn y casgliad y daethpwyd iddo oedd ei fod yn gweithio'n dda pan fo gennych feddygon teulu sy'n hoffi'r syniad, ac mae'n anodd cyffredinoli ynghylch lleoedd lle mae llai o frwdfrydedd drosto efallai. Ond, lle mae'n gweithio, rwy'n credu ei fod yn dod â phersbectif pwerus iawn i bobl sy'n darparu gwasanaethau drwy ddysgu'n uniongyrchol gan y rhai sy'n eu cael.

O ran y cwestiwn am fuddsoddi mewn gweithlu yn y dyfodol, fel y gŵyr yr Aelodau yma, rydym wedi cael profiad da iawn yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran recriwtio meddygon teulu i bractisau hyfforddi yma yng Nghymru. Mae'r niferoedd hynny wedi rhagori ar y trothwy a bennwyd gennym y llynedd a'r flwyddyn flaenorol, ac rydym yn gwneud yn dda iawn i gynnwys yn y practisau hyfforddi hynny bractisau ychwanegol mewn rhannau gwledig o Gymru. Rwy'n teimlo'n ffyddiog bod yr egwyddor gyffredinol yno'n un gadarn—os ewch i hyfforddi yn rhywle, a'ch bod yn treulio amser yno, mae'n cynyddu'r siawns mai dyna lle y byddwch eisiau gweithio'n barhaol. A dyna pam, wrth gwrs, yr ydym wedi ymrwymo i ysgol feddygol newydd yn y gogledd, a fydd yn arwain nid yn unig at feddygon teulu, ond yr ystod ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol yn cael eu hyfforddi'n uniongyrchol yma yng Nghymru ac yn gallu parhau i wneud y gwaith da y cyfeiriodd Sam Kurtz ato y prynhawn yma.