Datblygu Tai yng Nghaerdydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joel James Joel James Conservative 1:38, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, ar 8 Ionawr 2019, gofynnodd Huw Irranca-Davies i chi ynghylch yr hyn yr oedd y Llywodraeth hon yn ei wneud i sicrhau bod y seilwaith trafnidiaeth yn bendant ar waith i alluogi'r cynlluniau mawreddog ar gyfer tai newydd yng Nghaerdydd a'r de, i helpu i greu, yn ei eiriau ef, gannoedd a channoedd o berchnogion cartrefi hapus, nid etholwyr blin mewn tagfeydd. Fel y cofiwch efallai, gwnaethoch chi ymateb drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi deddfu i greu'r amodau pryd gall awdurdodau lleol ddod at ei gilydd i greu cynlluniau datblygu strategol, a'ch bod yn falch o weld, y llynedd, awdurdodau bargen prifddinas Caerdydd yn dod at ei gilydd i ddatblygu cynllun o'r fath ar gyfer ardal ehangach, a'ch bod yn edrych ymlaen at weld sut, yn 2019, y byddai'r bwriad hwnnw'n troi'n gamau ymarferol. Wel, dair blynedd yn ddiweddarach, gallwn weld yn glir fod y ddeddfwriaeth a grëwyd gan y Llywodraeth hon wedi helpu Caerdydd i droi'n ddinas gyda llawer o etholwyr blin mewn tagfeydd, ac mae'n amlwg nad yw'n gweithio. Mae'r sefyllfa o ran seilwaith yng Nghreigiau a Radur a'r cyffiniau yn ofnadwy ar y gorau, ac, fel y gwyddoch chi'n iawn, mae'n cael ei waethygu gan y ffaith nad oes gan y datblygiadau tai newydd ddigon o amwynderau, sy'n golygu bod yn rhaid i drigolion yrru i gael mynediad i ysgolion, cyfleusterau iechyd, siopau a thebyg, sy'n gwaethygu'r sefyllfa ymhellach. Hefyd, mae gwasanaethau bysiau'n ofnadwy. Maen nhw'n cael gwared ar fwy a mwy o wasanaethau yn yr ardal—