Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:50, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, mae arweinydd Plaid Cymru yn llygad ei le wrth ddweud nad yw'r rhesymau sydd gennym—[Torri ar draws.] Rwy'n deall mai gwadu yw noddfa gyntaf Plaid Geidwadol Cymru, ac maen nhw'n brysur yn gwneud hynny y prynhawn yma. Y rheswm pam nad oes trenau i'r de o Radur yw oherwydd bod penderfyniadau'n cael eu gwneud gan gyrff nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Mae'r rhesymau pam nad oes trenau o gwbl yn y gogledd yr un rhesymau'n union. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU a Network Rail drin Cymru gyda'r parch yr ydym yn ei haeddu, a chydnabod nad oes gennym anghydfod yma yng Nghymru, ac eto, oherwydd eu gweithredoedd, nid yw trenau a allai fod yn rhedeg heddiw yn rhedeg.

Fe'n hatgoffwyd gan arweinydd Plaid Cymru o Grant Shapps. Dyna enw—gwelaf bod rhai Aelodau yma'n gyfarwydd ag ef. Ond mae'n ergyd driphlyg ryfeddol, onid yw hi, i ddod â'r rheilffyrdd i stop, i ddod â'r meysydd awyr i stop, ac, yn olaf, ar ôl tua wyth wythnos, rwy'n credu, ei fod wedi sylweddoli nad oedd y 5c a dynnwyd oddi ar bris petrol wedi'i drosglwyddo i bobl yn y rhan honno o'r sector trafnidiaeth ychwaith. Mae'n hanes hynod o fethiant, ac mae arnaf ofn mai pobl nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y Deyrnas Unedig sy'n talu cost y methiant hwnnw heddiw.