Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 21 Mehefin 2022.
Wel, Llywydd, gadewch i mi gytuno â rhan gyntaf yr hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru, oherwydd yn yr anghydfod a welwn yn y diwydiant rheilffyrdd a'r pleidleisiau a welwn ar gyfer streicio mewn rhannau eraill o'r gwasanaethau cyhoeddus, rydym yn medi corwynt 10 mlynedd o gyni. Rwy'n meddwl am yr amser, dro ar ôl tro pan gefnogodd Aelodau meinciau'r Ceidwadwyr y polisi hwnnw a'i amddiffyn—y polisi hwnnw, sydd wedi cadw cyflogau i lawr, sydd wedi gwrthod rhoi codiadau cyflog i bobl, ac sy'n golygu, ym mhob stryd yma yng Nghymru, fod gennym deuluoedd sy'n waeth eu byd heddiw na phan ddaeth ei blaid i rym yn 2010. A phan ychwanegwch chwyddiant sy'n rhemp a Changhellor sydd wedi colli rheolaeth dros yr economi, yna nid oes amheuaeth o gwbl bod y camau hyn yn cael eu hysgogi gan y methiant economaidd cyfansawdd hwnnw.
Fodd bynnag, mae'r sefyllfa yng Nghymru o ran cyflogau yn y sector cyhoeddus yn rhan o'r broblem a grëwyd gan y Llywodraeth Geidwadol. Rydym yn cael swm penodol o arian bob blwyddyn. Os ydym eisiau talu mwy i rai gweithwyr nag yr ydym yn cael ein hariannu i'w talu, nid oes unman i ni fynd. Ni allwn godi arian ein hunain i ychwanegu at hynny. Ni allwn godi arian ein hunain—[Torri ar draws.]
Mae gen i ddiddordeb mawr yn wir. Llywydd, ni fydd pobl sy'n gwrando wedi clywed arweinydd yr wrthblaid yn dadlau o blaid codi trethi pobl yma yng Nghymru er mwyn talu am gyflogau pobl oherwydd dyna a wnaeth. Dywedodd wrthyf y dylem godi trethi er mwyn talu am godiadau cyflog. [Torri ar draws.]