Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Cymeradwyaf iddo'r ddarlith ddiweddar a roddwyd gan y Gweinidog addysg i Sefydliad Bevan, pan oedd yn mynd i'r afael â'r union fathau o faterion y mae Dr Hussain wedi'u codi gyda ni y prynhawn yma. Mae'r rhain yn faterion cymhleth. Nid oes gennyf unrhyw ddymuniad o gwbl, Llywydd, i gosbi unrhyw deuluoedd sy'n cael trafferthion yn sgil effaith yr argyfwng costau byw ac sy'n wynebu anawsterau ychwanegol o ran sicrhau bod eu plant yn bresennol—fel y mae angen i'r plant hynny fod, gan fod gan blant hawl i gael addysg yng Nghymru—yn yr ystafell ddosbarth. Nid wyf yn credu y byddai fy ngoddefgarwch yn ymestyn yr holl ffordd i deuluoedd sy'n dewis mynd â'u plant allan o'r ysgol er mwyn mynd ar wyliau. Mae ateb gwahanol a gwell i hynny, a hynny yw diwygio'r flwyddyn ysgol. Mae hwnnw'n fesur arall y mae fy nghyd-Aelod Jeremy Miles yn gweithio arno ar hyn o bryd, gyda'n partneriaid yn y meysydd ysgol ac addysg. Drwy ddiwygio'r flwyddyn ysgol, byddem yn gallu dileu'r cymhelliant gwrthnysig hwnnw, neu effeithio arno, sy'n bodoli i rieni wneud yn union fel y mae Altaf Hussain wedi awgrymu. Nid dyna'r ateb i sicrhau bod plant yn cael yr addysg y mae arnyn nhw ei hangen ac yn ei haeddu yng Nghymru.