Addysg Ysgol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:06, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Vikki Howells am hynna, ac rwyf eisiau llongyfarch Ysgol Gynradd Rhigos a'r tîm o bobl sydd wedi ennill y wobr sylweddol iawn honno. Mae arnaf ofn, Llywydd, fy mod wedi bod o gwmpas yn ddigon hir i gofio ymweliad ag ysgol yn Rhondda Cynon Taf, yr awdurdod lleol a gynrychiolir yma, gydag eraill, gan Vikki Howells. Roedd yn ymweliad a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, a chyfarfu â phennaeth aruthrol, a ddywedodd wrtho, pe bai yna un peth yr hoffai weld Llywodraeth Cymru yn ei wneud, cymryd camau i atal plant yn ei hysgol rhag troi i fyny bob bore yn rhy lwglyd i ddysgu byddai hynny. Roedd honno'n foment sobreiddiol iawn, Llywydd. O'r un ymweliad hwnnw, mae'r rhaglen gyfan yr ydym wedi'i chael yn awr ledled Cymru ar gyfer datganoli, fel y dywedodd Vikki Howells, dros gyfnod cyfan datganoli bron i ddarparu brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd, dyna o le y daeth y syniad hwnnw. Ac fel y dywedodd Vikki Howells, mae'n gwneud yn siŵr bod plant sy'n dod i'r ystafell ddosbarth yng Nghymru yn barod i ddysgu ac nad ydyn nhw'n ymgolli'n gyson yn y ffaith nad ydyn nhw wedi bwyta ers iddyn nhw fod yn yr ysgol y tro diwethaf.

Caiff hynny ei wella ymhellach fyth gan ein rhaglen o giniawau am ddim, prydau ysgol am ddim—prydau ysgol am ddim i bawb—ymrwymiad sydd wedi'i wreiddio yn ein cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, a phryd y cymerwyd cam mawr ymlaen ddoe gyda'r cyhoeddiad am y symudiad ymlaen ym mis Medi eleni. Caf fy nghalonogi yn fawr gan y ffaith bod cynifer o ysgolion a chymaint o awdurdodau lleol yng Nghymru yn gallu ymuno â chyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb mor gynnar yn y rhaglen, ac eraill sydd â chynlluniau gweithgar iawn i ymestyn y cynnig hwnnw, nid yn unig i ddisgyblion oedran derbyn, ond i fyfyrwyr blwyddyn 1 a blwyddyn 2 hefyd. Mae'n syniad sydd wedi cael croeso eang, am yr holl resymau a ddywedodd Vikki Howells, ac rydym yn dechrau'n dda iawn gyda'n rhaglen yma yng Nghymru.