Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Wel, rwy'n siŵr y bydd fy ngrŵp a CCAUC wedi'u digalonni o weld bod y gwelliannau wedi'u gwrthod gan y Gweinidog yn y fan yma. Mae'n ddryslyd pam mae'r Gweinidog yn credu na fyddai'r comisiwn yn cael budd o gronfa ehangach o ymgynghori ynghylch arfer ei swyddogaethau, a gofynnaf i'r Senedd ystyried hyn.