Part of the debate – Senedd Cymru am 6:42 pm ar 21 Mehefin 2022.
Dyna'r math o bryder a gydnabuwyd yng Nghyfnod 2, pan gyflwynwyd y gwelliannau i ddarparu'r amddiffyniadau ychwanegol y mae'r Bil, fel y mae'n dod i Gyfnod 3, eisoes yn eu cynnwys.
Fel yr oeddwn i'n ei ddweud, dim ond heb gydsyniad y gorfforaeth ei hun y gellir gwneud y Gorchymyn pan fo'r cydsyniad hwnnw wedi'i atal neu ei ohirio'n afresymol. Bydd penderfyniad gan Weinidogion Cymru bod cydsyniad wedi'i atal neu ei ohirio'n afresymol yn gallu cael ei herio gan adolygiad barnwrol yn y llysoedd, ac, o dan yr amgylchiadau eithriadol iawn pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn bod cydsyniad wedi'i wrthod yn afresymol, bydd yn rhaid i'w rhesymu dros ddod i'r farn honno fod yn ddigon cryf i gyfiawnhau'r penderfyniad hwnnw, a bydd angen i'r penderfyniad fod wedi'i wneud yn unol ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus, neu fel arall gellid ei ddileu neu ei ddatgan yn anghyfreithlon. Felly, mae'r amddiffyniad hwnnw'n amddiffyniad newydd yn y Bil, sydd wedi'i gynnwys o ganlyniad i drafodaethau Cyfnod 2.
Mae mesur diogelu pellach yn y Bil, a ddarperir gan y gofyniad bod Gweinidogion yn cyhoeddi ac yn parhau i adolygu datganiad sy'n nodi o dan ba amgylchiadau y bwriedir arfer y pŵer i wneud Gorchymyn i ddiddymu CAU yng Nghymru. A chyn gwneud y datganiad hwnnw, mae'n ofynnol i Weinidogion ymgynghori ag unigolion sy'n briodol yn eu barn nhw, a gosod y datganiad gerbron y Senedd cyn gynted â phosibl ar ôl ei gyhoeddi.
Mae'r sefydliadau siarter a'r CAUau wedi'u creu a'u diddymu gan ddefnyddio gwahanol ddulliau cyfreithiol. Dyna'r gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ddau, ac mae'r Bil, fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 2, yn sicrhau bod mwy o debygrwydd rhwng y sefydliadau yn hynny o beth. Dyna fu amcan y gwelliannau yr ydym eisoes wedi'u gwneud i'r Bil, ac nad yw prifysgolion yng Nghymru sy'n gorfforaethau addysg uwch o dan anfantais sylweddol o'u cymharu â phrifysgolion siarter, lle, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau hynny, efallai y bydd angen diddymu angenrheidiol, yn amodol ar y mesurau diogelu.
Hoffwn ddiolch i Brifysgolion Cymru am weithio gyda ni, gweithio gyda fy swyddogion, mewn cysylltiad â hyn. Rwy'n cydnabod yn llwyr nad yw'r gwelliannau a gyflwynais yng Nghyfnod 2 yn darparu'r cyfan o'r hyn yr oedd Prifysgolion Cymru yn chwilio amdano, ond credaf eu bod yn taro cydbwysedd priodol rhwng ymreolaeth sefydliadau unigol a chyfrifoldeb y Llywodraeth i gamu i mewn pe bai angen gwneud hynny mewn amgylchiadau eithriadol iawn, ac felly galwaf ar Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn.