Part of the debate – Senedd Cymru am 7:04 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Mae'r holl welliannau yn y grŵp hwn yn ymwneud â newidiadau canlyniadol i'r ddeddfwriaeth bresennol sydd eu hangen oherwydd sefydlu'r comisiwn a chyflwyno'r gofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol.
Mae gwelliant 70 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 8(4) o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 i addasu cwmpas darparwyr addysg sy'n dod o fewn dyletswydd Gweinidogion Cymru i sicrhau bod gwasanaethau gyrfa yn cael eu darparu ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr colegau addysg bellach. Mae angen gwelliant i sicrhau bod darparwyr addysg drydyddol sydd wedi'u cofrestru gyda'r comisiwn at ddibenion addysg uwch, ac eithrio sefydliadau yn y sector addysg bellach, yn cael eu heithrio o'r ddyletswydd. Mae hyn yn cyd-fynd ag eithrio sefydliadau yn y sector addysg uwch ar hyn o bryd. Bydd dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yn parhau i fod yn berthnasol mewn cysylltiad â myfyrwyr mewn sefydliadau addysg bellach ac ysgolion, hyd yn oed os yw'r sefydliad addysg bellach wedi'i gofrestru at ddibenion darparu addysg uwch.
Mae gwelliant 71 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 43(5) o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986 i sicrhau bod y ddyletswydd i sicrhau rhyddid i lefaru yn berthnasol i brifysgolion, sefydliadau addysg bellach ac unrhyw ddarparwr addysg drydyddol arall sydd wedi'i gofrestru gyda'r comisiwn er mwyn darparu addysg uwch. Mae angen y gwelliant hwn er mwyn sicrhau bod pob darparwr addysg drydyddol sy'n cofrestru gyda'r comisiwn at ddibenion addysg uwch yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd i sicrhau rhyddid i lefaru yn ogystal â phrifysgolion yng Nghymru a sefydliadau yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
Mae gwelliant 72 yn gwneud newidiadau canlyniadol i'r diffiniad o sefydliad yn y sector addysg uwch yng Nghymru o dan adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Ar hyn o bryd, mae'r diffiniad yn dibynnu ar gyfeiriadau at brifysgolion yn cael cymorth ariannol gan CCAUC a phrifysgolion sy'n sefydliadau rheoledig o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. Mae'r Bil yn diddymu pŵer ariannu CCAUC a Deddf 2015. Mae'r gwelliant yn sicrhau bod y diffiniad yn cynnwys darparwyr addysg drydyddol sydd wedi'u cofrestru mewn categori o'r gofrestr sy'n rhoi cymhwysedd i gael cyllid oddi wrth y comisiwn at ddibenion addysg uwch neu ymchwil neu arloesi. Nid yw'r gwelliant yn cynnwys sefydliadau yn y sector addysg bellach ac ysgolion yn y diffiniad.
Mae gwelliant 73 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 2A i Ddeddf Safonau Gofal 2000, gan sicrhau bod darparwyr cofrestredig sy'n gymwys i gael arian oddi wrth y comisiwn at ddibenion addysg uwch neu ymchwil neu arloesi yn dod o fewn cwmpas swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru o dan adran 72B o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae'r gwelliant yn galluogi Comisiynydd Plant Cymru i adolygu effaith arfer, neu arfer arfaethedig, unrhyw un o swyddogaethau darparwyr o'r fath ar blant sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru.
Mae gwelliant 74 yn gwneud newidiadau canlyniadol i Atodlenni 2 a 3 i Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, gan sicrhau y caiff y comisiynydd pobl hŷn benderfynu a yw darparwyr cofrestredig sy'n gymwys i gael arian oddi wrth y comisiwn at ddibenion addysg uwch neu ymchwil neu arloesi yn effeithiol o ran diogelu a hyrwyddo buddiannau pobl hŷn perthnasol yng Nghymru.
Mae gwelliant 75 yn gwneud newidiadau canlyniadol i Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, sy'n nodi y bydd arolygiadau a gynhelir gan y prif arolygydd o dan y Bil yn cael eu hystyried yn weithgareddau a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant at ddibenion Deddf 2006. Bydd hyn yn sicrhau statws parhaus yr arolygiadau hyn fel gweithgareddau a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant yng ngoleuni'r Bil sy'n diddymu swyddogaethau perthnasol o dan Ran 4 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.
Mae gwelliant 77 yn gwneud newidiadau canlyniadol i adran 162 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n darparu bod yn rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad rhwng yr awdurdod lleol, pob un o bartneriaid perthnasol yr awdurdod a chyrff eraill sy'n ymwneud â gweithgareddau sy'n berthnasol i oedolion y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw. Mae'r gwelliant yn sicrhau bod y comisiwn yn cael ei ddiffinio fel partner perthnasol i'r graddau y mae'r comisiwn yn arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 92, 93, 94, 96 neu 102(1) o'r Bil. Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau hefyd fod Gweinidogion Cymru yn cael eu diffinio fel partner perthnasol i'r graddau y maen nhw'n arfer eu swyddogaethau o dan adrannau 91, 96 neu 102(1) o'r Bil. Mae angen y gwelliant hwn oherwydd diddymu pwerau Gweinidogion Cymru i ariannu addysg bellach o dan Ran 2 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000. Galwaf ar yr Aelodau i gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.