Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 21 Mehefin 2022.
Ganed Pride o'r angen a'r ewyllys i brotestio, i ymladd dros hawliau cyfartal, i gael ein gweld, i fod yn ni'n hunain, i gael ein parchu, i sefyll gyda'n gilydd fel cymuned ac i fynnu diwedd ar wahaniaethu. Mae mwy i'w wneud o hyd, ac felly mae cyfrifoldeb arnom i ddyblu ein hymrwymiad i barhau i newid hanes er gwell, yma a thramor, ac i greu dyfodol lle yr ydym yn cydnabod ac yn gwireddu Cymru fel y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop.
Fel Llywodraeth, rydym yn sefyll gyda'n cymunedau LGBTQ+. Dyna pam mae hawliau LHDTC+ yn rhan annatod o'n rhaglen lywodraethu, yn elfen allweddol o'r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, a pham yr ydym yn datblygu ein cynllun gweithredu beiddgar. Mae'r cynllun hwn yn cryfhau amddiffyniadau i bobl LHDTC+, yn hyrwyddo cydraddoldeb i bawb, ac yn helpu i gydlynu camau gweithredu ar draws y Llywodraeth, cymunedau a'r wlad.
Ein nod yw cyhoeddi'r cynllun gweithredu yr hydref hwn, ac rydym yn gwneud cynnydd nid yn unig ar y cynllun ei hun ond, yn bwysig, ar roi ymrwymiadau ar waith. Rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau i gefnogi sefydliadau Pride yng Nghymru. Mae ein cefnogaeth i Pride Cymru yn parhau ac, am y tro cyntaf, rydym wedi darparu cyllid i ddigwyddiadau Pride ar lawr gwlad ledled Cymru. Rydym eisoes wedi rhoi cefnogaeth i Pride Abertawe a Pride Gogledd Cymru, ac mae trafodaethau ar y gweill gyda Pride in the Port yng Nghasnewydd.
Rydym yn galluogi addysg fwy cynhwysol, wrth i Lywodraeth Cymru ddarparu canllawiau cenedlaethol i ysgolion erbyn diwedd eleni i'w helpu i gefnogi disgyblion trawsryweddol yn llawn. Mae hyn yn cael ei wneud fel rhan o'r dull ysgol gyfan o ymdrin ag addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac rydym ni eisiau ei gwneud yn glir nad yw Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo unrhyw ganllawiau trydydd parti yn y maes hwn. Yn ddiweddar, mae ein cefnogaeth wedi galluogi Stonewall Cymru a Peniarth i gyfieithu dau lyfr am deuluoedd LHDTC+ i'r Gymraeg. Bydd y llyfrau, sydd wedi eu dosbarthu i ysgolion cynradd, yn sicrhau bod gan ystafelloedd dosbarth fynediad at lenyddiaeth gynhwysol sy'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru.
Gwnaed cynnydd hefyd ym maes iechyd rhywiol drwy'r cynllun gweithredu HIV i Gymru, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad yr wythnos diwethaf. Nod y cynllun yw cyrraedd y targed o ddim trosglwyddiadau HIV newydd erbyn 2030, mynd i'r afael â stigma a gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw â HIV.
Deugain mlynedd yn ôl, roedd pobl hoyw yn dioddef anfri cas ac ymosodiadau rhagfarnllyd. Heddiw, mae pobl draws yn destun llif tebyg o ymosodiadau wedi eu hysgogi gan gasineb. Nid yw ymestyn hawliau i un grŵp yn golygu erydu hawliau o un arall. Nid ydym yn credu y bydd gwella hawliau i fenywod traws yn niweidio hawliau i fenywod a merched cisryweddol. Mae ein cymunedau traws yn brifo, mae ofn arnyn nhw, ac maen nhw'n dioddef niwed. Fel cymdeithas, gallwn ni ac mae'n rhaid i ni wneud yn well na hyn.
Felly, rydym yn parhau i ddatblygu ein gwasanaeth rhyw yng Nghymru, sy'n adrodd am amseroedd aros byrrach ar gyfer asesiad cyntaf na gwasanaethau rhyw tebyg y GIG yn Lloegr ac sydd wedi ymrwymo i leihau amseroedd aros ymhellach. Rydym hefyd wedi ymrwymo i wella'r llwybr ar gyfer pobl ifanc drawsryweddol yng Nghymru. Bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth, yn edrych ar y dystiolaeth sydd ar gael i ddiffinio'r model gwasanaeth clinigol ymhellach ar gyfer y dyfodol, a bydd lleisiau cymunedol yn flaenllaw ac yn ganolog i'r gwaith hwn.
Yn unol â'n hymrwymiad i'r cytundeb cydweithredu, byddwn hefyd yn ceisio datganoli pwerau ychwanegol i wella bywydau ac amddiffyn pobl drawsryweddol. Ni fu ein hymrwymiad i gefnogi pobl LHDTC+ sy'n ceisio noddfa yng Nghymru a chyflawni ein dyletswydd ryngwladol i ddangos arweiniad ar gydraddoldeb erioed yn bwysicach. Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi ein harswyd ynghylch eu cynlluniau i anfon ceiswyr lloches i Rwanda. Byddai hyn yn ddinistriol i bobl LHDTC+, gan eu rhoi mewn perygl o gael eu trin yn wael, gwahaniaethu, arestio mympwyol, a'u cadw yn y ddalfa.
Felly, mae materion LHDTC+ y tu hwnt i'n ffiniau yn parhau i fod yn hollbwysig i ni ac, er bod Cymru'n ennill ei lle yng Nghwpan y Byd yn destun dathlu, ni ellir anwybyddu safbwynt gwarthus y wlad sy'n cynnal y bencampwriaeth ar hawliau LHDTC+. Bydd llawer yno na fyddan nhw'n teimlo'n ddiogel i deithio, neu a fydd yn dewis peidio â chefnogi cymunedau LHDTC+ Qatar ei hun, sy'n methu â byw yn agored ac yn rhydd fel eu hunain. Byddwn yn ceisio defnyddio ein platfform i ymgysylltu a dylanwadu ar y materion pwysig hyn.
Rydym wedi ymrwymo i beidio â gadael yr un garreg heb ei throi o ran gwahardd arferion trosi ar gyfer pobl LHDTC+. Ni fyddwn yn troi cefn ar ein cymunedau traws, fel y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud, ac ni fyddwn ychwaith dim ond yn siarad pan ddaw'n fater o weithredu. Gan weithio gyda Phlaid Cymru, rydym yn gwneud gwaith cymhleth, gan gynnwys ceisio cyngor cyfreithiol i bennu'r holl ysgogiadau sydd gennym ar gyfer gwaharddiad yng Nghymru, datblygu ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth ac erchyllterau arferion trosi, ac mae ein cynlluniau i sefydlu gweithgor o arbenigwyr ar y gweill.
Yn ystod fy ymweliad diweddar i gwrdd â'r grŵp Digon o Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd, gofynnais i'r myfyrwyr pa neges y bydden nhw'n dymuno i mi ei rhannu mewn datganiad yma i nodi Mis Pride. Roedd y neges yn glir: 'Dydw i ddim eisiau cael fy ngoddef yn unig, rwy'n dymuno cael fy nathlu.' Yn ystod y Mis Pride hwn, a phob mis arall, y deyrnged fwyaf y gallwn ei thalu i'r arloeswyr a baratôdd y ffordd yw parhau i siarad, sefyll a chwarae ein rhan ein hunain i sicrhau dyfodol tecach lle rydym yn teimlo'n ddiogel, yn cael ein cefnogi a'n dathlu, gyda'n hawliau wedi eu sicrhau.