Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 21 Mehefin 2022.
Rwy'n falch bod y cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop ac i alw am ddatganoli'r pwerau i ddeddfu i wella bywydau a diogelu diogelwch pobl draws yng Nghymru. Mae'n amlwg pa mor hanfodol yw'r ymrwymiadau hynny, o ystyried sut mae troseddau casineb yn erbyn pobl ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol wedi codi bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr ers 2016. Ac mae ffigurau gan Heddlu Gwent, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu De Cymru a gafwyd drwy gais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru hefyd wedi dangos y duedd hon o gynnydd i droseddau casineb trawsffobig ac ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rwy'n falch bod y Dirprwy Weinidog wedi cyfeirio'n benodol yn ei datganiad at y ffordd y mae pobl draws yn cael eu gwneud yn destun anoddefgarwch a chasineb cynyddol. Mae'n rhaid i ni gael pwerau i ddiogelu pobl draws yma yng Nghymru yn well, ac rwy'n edrych ymlaen at waith pellach ar hyn. Rwy'n credu hefyd fod menywod traws yn fenywod a bod y ffordd y mae menywod traws yn cael eu heithrio gan gyrff chwaraeon, p'un a ydych yn cytuno ag ef fel dull o sicrhau tegwch ai peidio, yn ymwroli'r rhai sy'n defnyddio chwaraeon i guddio eu trawsffobia a'u rhagfarn. O'i ystyried ynghyd â'r materion iechyd meddwl a chyfraddau hunanladdiad ymhlith pobl draws, a'r gyfran fach iawn o athletwyr traws sy'n cystadlu mewn chwaraeon elitaidd, mae'n ymddangos bod penderfyniadau i wahardd athletwyr trawsryweddol, yng ngeiriau un o newyddiadurwyr chwaraeon mwyaf blaenllaw America, Dan Wolken, yn ateb sy'n chwilio am broblem. Mae gan chwaraeon ran mor allweddol wrth hyrwyddo darlun cynhwysol ac amrywiol o ddinasyddion ein byd, gan gynnwys athletwyr trawsryweddol. Felly, sut ydym ni yng Nghymru, fel y'i mynegwyd yn gwbl briodol gan fyfyrwyr grŵp Digon Ysgol Gyfun Plasmawr, yn mynd i ddathlu ein dinasyddion traws sy'n athletwyr? Hoffwn i wybod felly, Dirprwy Weinidog, pa sgyrsiau yr ydych wedi'u cael gyda sefydliadau a chyrff chwaraeon yng Nghymru am oblygiadau'r penderfyniad a wnaed gan FINA a'r datganiadau a wnaed gan Nadine Dorries, y bydd yn annog cyrff chwaraeon y DU i ddilyn arweiniad FINA.
Ac i aros gyda chwaraeon, roeddwn i hefyd yn falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at ein cyfrifoldeb fel cenedl i dynnu sylw at ragfarn ac erledigaeth y tu hwnt i Gymru, a'r angen i sicrhau bod ein pryderon am record ofnadwy Qatar ar hawliau LHDTC+ yn cael eu lleisio'n glir pan fydd ein tîm cenedlaethol, a'u staff ategol, a chefnogwyr Cymru, yn teithio yno ar gyfer Cwpan y Byd.
Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu'n union pa sgyrsiau y mae wedi'u cael gyda Llywodraethau eraill, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a rhanddeiliaid eraill ynghylch y mater hwn? Sut byddwn yn ymgysylltu â gwladwriaeth a all atal pobl LHDT rhag dod i mewn i'w gwlad, neu alltudio pobl LHDT o Qatar ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol a'u hunaniaeth o ran rhywedd, a cheisio dylanwadu arni? Sut mae'r Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod cefnogwyr LHDTC+, y rhai sy'n gysylltiedig â'r timau, aelodau o gwmnïau a sefydliadau Cymru, yn gallu chwarae rhan lawn yn ymgyrch Cwpan y Byd Cymru heb fod ofn erledigaeth?
Yn olaf, hoffwn i droi at eich sylwadau ar sut y mae Cymru'n genedl noddfa i bawb—mae mor addas ein bod yn gwneud hynny yn ystod Wythnos Ffoaduriaid, ac yn dilyn y ddadl yr ydym newydd ei chael—a sut y mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei harswyd tuag at gynlluniau Llywodraeth San Steffan i anfon ffoaduriaid a cheiswyr lloches i Rwanda. Ac mae Plaid Cymru yn cefnogi eich geiriau cryf, ac yn rhannu eich pryderon am y canlyniadau i ffoaduriaid LHDTC+ a'r risgiau posibl y bydden nhw'n eu hwynebu. Mae Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 yn ei gwneud yn anoddach byth i bobl LHDTC+ sy'n ceisio lloches gael eu cydnabod a'u diogelu. Mae triniaeth gywilyddus rhai o ffoaduriaid mwyaf agored i niwed y byd yn un o'r rhesymau pam mae'r DU wedi plymio yn y safleoedd ar gyfer hawliau LHDTC+ ledled Ewrop am y drydedd flwyddyn yn olynol. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud yn benodol i gefnogi ffoaduriaid LHDTC+, ac a yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi, os ydym am ddiogelu pobl LHDTC+ sy'n dymuno gwneud Cymru'n gartref yn llawn, yna mae angen daer am fil hawliau Cymru arnom i'n helpu i ymgorffori'r amddiffyniadau cyfreithiol rhyngwladol y maen nhw'n eu haeddu? Diolch.