Grŵp 1: Sefydlu’r Comisiwn, penodi ei aelodau a thelerau’r aelodau (Gwelliannau 120, 121, 122, 123, 124, 125, 126, 127, 128, 129, 130, 131, 132, 133, 134, 135, 136, 137, 138, 139, 140, 141, 142, 143, 144, 145, 146, 147, 148, 149, 150, 151, 152, 153, 154, 155, 156, 157, 158, 159, 160, 119)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:02, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Cyn imi siarad am y gwelliannau yn y grŵp hwn, hoffwn ddiolch ar goedd i'r pwyllgorau a'r holl Aelodau am graffu ar y Bil hwn, ac yn enwedig i'r Aelodau hynny sydd wedi cyflwyno gwelliannau i'r Bil heddiw. Er na fu'n bosibl cytuno ar bob gwelliant, a gaf i ddweud ar goedd yr hoffwn sicrhau'r Aelodau fy mod wedi ystyried pob gwelliant a gyflwynwyd yn ofalus?

Gan droi at y gwelliannau yn y grŵp hwn, fel y nodais pan gyflwynwyd hyn yng Nghyfnod 2, gwrthodaf welliant 119, sy'n gohirio'r darpariaethau yr effeithir arnynt fel na ddônt i rym tan 1 Ionawr 2024. Bydd hyn yn atal gwneud unrhyw Orchmynion, gan gynnwys mewn perthynas â'r pwerau hynny sy'n angenrheidiol i wneud trefniadau paratoadol i gefnogi gweithredu'r comisiwn mewn modd sy'n sicrhau parhad y ddarpariaeth ar gyfer y sector ac yn cefnogi pontio didrafferth i'r comisiwn. Wrth sefydlu'r comisiwn newydd, bydd y Bil yn dwyn ynghyd am y tro cyntaf y trefniadau o ran ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, gan roi dysgwyr wrth ei wraidd. Fel y dywedais i o'r blaen, mae'n hen bryd gweld y newid hwn, ac mae'n hanfodol bod hynny'n digwydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol, gan sicrhau ar yr un pryd bod y gweithredu'n gadarn ac nad yw rhanddeiliaid yn cael eu gorlwytho. O ran Deddf y farchnad fewnol, sef y cyfeiriad y credaf fod yr Aelod yn ei wneud, gallaf gadarnhau nad wyf yn ystyried bod unrhyw oblygiadau i'r Bil hwn, ac nid wyf o'r farn ei fod yn gwarantu oedi sylweddol i'r gweithredu.

Gwrthodaf hefyd welliant 120, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i'r comisiwn mewn perthynas â'r modd y dylai arfer ei swyddogaethau a hefyd adolygu'r canllawiau hynny'n flynyddol. Wrth sôn am y gwelliant, cyfeiriodd Laura Anne Jones ato'n darparu ar gyfer llythyr cylch gwaith blynyddol, i bob pwrpas, ac nid wyf o'r farn y byddai'r gwelliant hwn yn darparu ar gyfer hynny mewn gwirionedd, ac yn gyffredinol mae arnom ni eisiau edrych yn fwy hir dymor, yn hytrach na'r trefniadau blynyddol sydd ar waith ar hyn o bryd. Yn allweddol, nid wyf yn ystyried bod y gwelliant yn cefnogi'r egwyddor bod y comisiwn yn gorff hyd braich. Yn hytrach, mae'n darparu ar gyfer proses fiwrocrataidd a beichus sy'n peryglu gallu'r comisiwn i ystyried y safbwynt strategol hirdymor fel yr hoffem iddo ei wneud. 

Rwy'n ffyddiog mai ein dull o'r comisiwn yn gweithredu hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, o fewn fframwaith cynllunio ac ariannu strategol, yw'r ffordd gywir ymlaen i gyflawni ein huchelgeisiau. Fodd bynnag, ni fyddai'r dull hwn yn ein hatal rhag darparu llythyr cylch gwaith blynyddol i'r comisiwn, pan fo angen hynny a phan fo'n briodol, gan fod y dewis hwnnw'n parhau i fod yn rhan o'r berthynas safonol rhwng Llywodraeth Cymru a chorff a noddir ganddi. Yn ogystal, mae adran 20 o'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r comisiwn roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o ran ei swyddogaethau o dan y Bil, y gwahaniaeth yma yw y gellir cyhoeddi canllawiau os oes angen yn hytrach na dyletswydd i gyhoeddi canllawiau ar holl swyddogaethau'r comisiwn ar unwaith, p'un a oes angen canllawiau o'r fath ai peidio. Nid yw'n fwriad gennyf gyhoeddi canllawiau i'r comisiwn ar eu holl swyddogaethau. Fel y stiward cenedlaethol ar gyfer addysg drydyddol yng Nghymru, bwriadaf i'r comisiwn gael yr ymreolaeth i weithredu fel corff hyd braich.

Rwyf hefyd yn gwrthod y gwelliannau sy'n weddill yn y grŵp hwn, sy'n tanseilio'r arfer hirsefydlog o benodi Gweinidogion i gyrff cyhoeddus. Fel yr wyf wedi cadarnhau yn ystod y camau blaenorol, bydd y Llywydd, y cadeirydd a'r dirprwy gadeirydd a'r prif weithredwr yn ymddangos o flaen pwyllgor perthnasol y Senedd ar gyfer gwrandawiadau rhagarweiniol. Yng ngoleuni hynny, galwaf ar Aelodau i wrthod yr holl welliannau yn y grŵp hwn.