Gwerth Coed

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 22 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:34, 22 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Credaf fod pob un ohonom o blaid plannu llawer mwy o goed mewn egwyddor, er bod gennyf bryder gwirioneddol, mae'n rhaid dweud, ynghylch penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i brynu tir amaethyddol da i blannu coed arno. Ond nid dyna yw ffocws fy nghwestiwn heddiw; mae'n ymwneud â diogelu'r coed sydd gennym eisoes. Yng Nghaergybi, mae dicter gwirioneddol ynglŷn â'r cynlluniau sydd wedi bod ar waith ers degawd neu ragor bellach i dorri rhan fawr o goetir ym Mhenrhos, i wneud lle i adeiladu pentref hamdden. Nawr, dywed adroddiad yr asesiad sylfaenol o ardal o harddwch naturiol eithriadol ar gyfer y cais am y datblygiad hamdden hwnnw wrthym fod Ynys Môn yn un o’r siroedd lleiaf coediog yn y DU. Ond ym Mhenrhos, credaf fod oddeutu 27 erw o goetir wedi’u clustnodi i gael eu torri, ac mae mewn ardal sy’n hoff gan lawer, ardal a ddefnyddir gan y cyhoedd, a fydd yn cael ei cholli. A yw’r Llywodraeth yn ystyried ei bod yn werth camu i mewn i ddiogelu coed, a yw’n fodlon cymryd camau i ddiogelu coetir, neu a yw ond am brynu tir i blannu coed newydd?