Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 22 Mehefin 2022.
Rydym eisoes yn gwneud hynny. Mae'n rhan o'r cwricwlwm, ar wahân i unrhyw beth arall. Wrth gwrs, rydym yn annog ysgolion i annog defnydd cymunedol. Nid yn unig fy mod wedi cael sgyrsiau, ond rwyf wedi ymweld ag ysgolion sy'n gwneud hynny, gyda fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles. Rydym yn awyddus iawn i ysgolion ymuno â'r prosiect hwnnw, felly os gwyddoch am unrhyw un nad ydynt yn gwneud hyn eto ac y byddent yn awyddus i'w wneud, byddem yn fwy na pharod i helpu.