Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 22 Mehefin 2022.
Felly, Janet, eto, unwaith eto, sawl gwaith y mae'n rhaid imi ddweud yr un peth? Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i roi corff diogelu’r amgylchedd ar waith. Mae'r cynllun interim diogelu'r amgylchedd yn gweithio; mewn gwirionedd, mae'n tynnu sylw at faint o bobl sydd am i'w problemau gael sylw, ac mewn amserlen lawer byrrach nag a oedd yn bosibl erioed o'r blaen. Fel y gwyddoch, rydym yn gweithio gyda’r archwiliad dwfn ar fioamrywiaeth i roi safonau ar waith gyda thargedau a fydd yn cadw'r pwysau arnom. Mae cael bathodyn sy'n dweud, 'Nid wyf yn gwybod beth rwyf ei eisiau, ond mae arnaf ei eisiau yn awr' yn un peth, ond mae'n bwysig cael targedau sy'n golygu rhywbeth ac a fydd yn gwthio'r mater yn ei flaen, yn hytrach na set o eiriau gwag, unwaith eto.