1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 22 Mehefin 2022.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Nyffryn Clwyd? OQ58226
Bydd rhaglen metro gogledd Cymru yn trawsnewid gwasanaethau trên, bws a theithio llesol ar draws y gogledd. Mae’r metros yn cynnig rhai o’r cyfleoedd gorau i gyflawni ein targed o sicrhau bod 45 y cant o deithiau'n cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus neu drwy deithio llesol erbyn 2040, gan helpu i leihau tagfeydd ar y ffyrdd, allyriadau carbon a llygredd aer.
Rwy’n gwerthfawrogi eich ymateb, Weinidog. Mae fy mewnflwch yn llawn gohebiaeth gan etholwyr sy'n hynod bryderus ynghylch materion trafnidiaeth lleol. Problemau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth yw ail gategori mwyaf cyffredin fy ngwaith achos bellach. Mae’r problemau y mae’n rhaid i fy etholwyr eu dioddef yn amrywio o fysiau annigonol ac anfynych, yn enwedig yn ardaloedd mwy gwledig yr etholaeth, i drenau gorlawn a diffyg blaengynllunio gan y gwasanaethau rheilffyrdd, gyda rhy ychydig o gerbydau yn weithredol yn ystod digwyddiadau y gŵyr pawb eu bod yn brysur, megis rasys Caer a digwyddiadau chwaraeon lleol. O gofio bod eich Llywodraeth wedi pennu nodau uchelgeisiol i fynd i'r afael â newid hinsawdd, nid yw'n anodd deall y bydd angen unioni'r problemau a amlinellais, yn enwedig os ydych am ddenu mwy o deithwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, Weinidog, beth a wnewch i dawelu meddwl fy etholwyr pryderus ynglŷn â'r materion hyn a gwella eu profiad o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn Nyffryn Clwyd?
Diolch. Rwy’n deall eich bod wedi codi pryderon gyda Trafnidiaeth Cymru ynghylch perfformiad gwael y trenau yn eich etholaeth, a chredaf eich bod wedi cael ymateb ganddynt. Bu achlysuron pan fu’n rhaid i Trafnidiaeth Cymru ganslo gwasanaethau ar y funud olaf, ac achosion lle roedd angen inni weithredu gwasanaethau amgen er mwyn sicrhau bod opsiynau teithio amgen ar gael. Mae oddeutu 68 y cant o’r gwasanaethau a gafodd eu canslo yn ymwneud â phroblemau Network Rail, lle roedd angen iddynt ymchwilio i ddigwyddiadau amrywiol ar y seilwaith. Mae’r traciau a’r signalau ar gyfer prif linell arfordir gogledd Cymru yn cael eu rheoli a’u gweithredu gan Network Rail, ac mae hyn yn cyfyngu ar allu Trafnidiaeth Cymru i weithredu pan fydd problem yn codi. Yn anffodus, mae rhai digwyddiadau, megis tresmaswr ar y rheilffordd neu farwolaeth, angen sylw sensitif a bydd angen i'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ymdrin â'r digwyddiadau hynny.
Lle bo modd, mae Trafnidiaeth Cymru yn ceisio cynnig gwasanaeth amgen i sicrhau bod pobl yn gallu teithio. Weithiau, y dewis arall fyddai ei ganslo'n gyfan gwbl. Ac er ei bod yn ddrwg iawn gennym am yr amodau gorlawn wrth gwrs, weithiau mae'n well cael gwasanaeth gorlawn na dim gwasanaeth o gwbl, sef yr opsiwn arall o bosibl. Ac wrth gwrs, rydym yn gweithio i wella'r rhwydwaith yn gyffredinol. Mae'r streiciau diweddar—ddoe ac yfory—a’r tarfu heddiw wedi'u hachosi gan y ffordd y mae Network Rail yn rhyngweithio â’r cwmnïau sy'n gweithredu'r trenau. Felly, mae cael sgwrs iawn gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â pam fod y system honno a roddwyd ar waith gan y Ceidwadwyr wedi methu ym mhob ffordd yn un o'r pethau cyntaf ar ein rhestr.