Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 22 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:46, 22 Mehefin 2022

Diolch, Llywydd. Hoffwn dynnu sylw at gyfraniad band eang ffeibr i'n taith i sero net a'n dyfodol cynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod i 30 y cant o'r gweithlu weithio o gartref yn rheolaidd, neu'n agos at gartref, erbyn 2030. Yr hyn sy'n amlwg ydy bod angen rhwydwaith band eang sy'n darparu profiad gwaith symlach a dibynadwy o'n cartrefi a chanolfannau cydweithio cymunedol. Mae ymchwil diweddar gan y Sefydliad Materion Cymreig wedi tynnu sylw at sut yn union y byddai uwchraddio'r rhwydwaith ffeibr llawn yn cefnogi ymdrechion datgarboneiddio, naill ai drwy ailddefnyddio pibellau a pholion ffôn presennol, neu oherwydd bod technolegau newydd yn rhyddhau 80 y cant yn llai o garbon hyd yn oed cyn ystyried defnyddio ynni digarbon. Felly, Weinidog, beth ydy rôl band eang ffeibr go iawn yn strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru i gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050 neu'n gynharach, plis?