Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 22 Mehefin 2022.
Mae ein grant cymorth rhandiroedd bellach yn ei ail flwyddyn, a bydd yn dyrannu £750,000 ar draws holl awdurdodau lleol Cymru i helpu i wella a chynyddu darpariaeth rhandiroedd. Yn ogystal â’r gronfa benodedig hon, mae amrywiaeth o raglenni eraill, megis Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, hefyd yn helpu i gefnogi datblygiad rhandiroedd.