Adfywio Canol Trefi

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 22 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:11, 22 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Mae llawer o ganol trefi yn fy rhanbarth yn ei chael hi'n anodd. Mae'r storm berffaith o ardrethi busnes uchel, y cynnydd mewn siopa ar-lein a'r argyfwng costau byw wedi gwneud y rhagolygon yn llwm i lawer o fasnachwyr. Er gwaethaf buddsoddiad o £900 miliwn yng Nghymru yn yr wyth mlynedd diwethaf, mae un o bob saith siop ar y stryd fawr yn parhau i fod yn wag yn ôl Archwilio Cymru. Maent hefyd yn dweud:

'Nid yw pwerau a all helpu i ysgogi adfywiad canol trefi yn cael eu defnyddio'n effeithiol nac yn gyson.'

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddysgu gwersi o strategaethau blaenorol i fynd i'r afael â'r duedd hon ar i lawr? A yw cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys unrhyw syniadau i addasu rhannau o ganol trefi i ddarparu mwy o gyfleoedd hamdden a desgiau poeth i fusnesau newydd neu bobl a allai fod yn gweithio gartref yn barhaol erbyn hyn?