Llifogydd

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 22 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:08, 22 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae ein hamcanion ariannu i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau wedi'u nodi yn ein strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd a'r rhaglen lywodraethu. Eleni, cyhoeddwyd y lefel uchaf erioed o fuddsoddiad o fwy na £214 miliwn dros y tair blynedd nesaf i helpu i ddiogelu o leiaf 45,000 o gartrefi rhag perygl llifogydd.