Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 22 Mehefin 2022.
Diolch i Sam Rowlands am hynny. Fel y dywedais yn fy ateb i Ken Skates, mae fy swyddogion yn gweithio gyda'r awdurdod ar y safle hwn. Mae iddo nifer o ddimensiynau. Mae datblygu ysgolion yn un agwedd ar hynny. Ond bu cynnydd da ar nifer o'r elfennau allweddol sydd eu hangen er mwyn i hynny symud ymlaen, ac rwy'n hapus i gofnodi hynny. Rwy'n ei longyfarch am ymgysylltu â disgyblion yn ei ranbarth mewn perthynas â photensial y rhaglen adeiladu ysgolion. Credaf fod cyfleoedd da, yn enwedig mewn perthynas ag ysgolion sero net y dyfodol, i ymgorffori'r dysgu hwnnw yn y cwricwlwm ei hun, ac i ddefnyddio'r gwaith o adeiladu'r ysgol fel adnodd addysgu ynddo'i hun.