Hyfforddiant Meddygol drwy gyfrwng y Gymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 22 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:21, 22 Mehefin 2022

Rwy'n ymwybodol, o fy nhrafodaethau gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithsol, ei bod hi, mewn sgyrsiau gyda Bangor, wedi amlinellu ein disgwyliadau ni ynghylch y ddarpariaeth Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn ystyriaeth greiddiol i Fangor, sy'n cymryd camau rhagweithiol i gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg wrth iddynt fynd ati i ddatblygu a gweithredu'r cwricwlwm newydd.