Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 22 Mehefin 2022.
Weinidog, diolch am eich ateb. Mae hwnnw'n newyddion gwych, ac mae'r £20 miliwn hwnnw wedi cyfrannu'n helaeth at wella nid yn unig ystadau ysgolion, ond cymunedau'n gyffredinol. Byddwn yn hynod ddiolchgar pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a fy etholwyr yn Ne Clwyd am y cynnydd sy'n cael ei wneud yn benodol yng nghymuned Brymbo, yng ngogledd yr etholaeth, lle byddai ysgol newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn cael ei gwerthfawrogi gan bob dinesydd, ac yn enwedig gan ddysgwyr.