Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 22 Mehefin 2022.
A gaf i ddweud mor braf yw e i glywed mwy o Aelodau yn siarad Cymraeg yn y Siambr? Llongyfarchiadau i Sam, ynghyd â Jack, heddiw.
Ie, mae e wir yn bwysig, er mwyn i ni allu gweld y cynnydd rŷn ni eisiau ei weld o fewn darpariaeth Gymraeg, a bod mynediad hafal gan bob plentyn yng Nghymru i addysg Gymraeg yn unrhyw ran o Gymru, fod cynlluniau uchelgeisiol o ran cynlluniau strategol ar waith, ond hefyd fod gwaith da yn digwydd rhwng ysgolion, rhwng awdurdodau lleol a'r consortia. Ac rwy'n sicr bod hynny'n digwydd yng ngogledd Cymru fel mae e ym mhob rhan o Gymru.