Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 22 Mehefin 2022.
Rwy'n hapus iawn i ymuno â'r Aelod i longyfarch y coleg, ac rwy'n edrych ymlaen at fod gydag ef yfory yng Ngholeg Sir Benfro, lle y cawn gyfle i siarad â llawer o'r dysgwyr ifanc yno—a'r manteision y gallant eu cael o'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael yno hefyd. Fel y gŵyr, o ran ein dull o ymdrin â phrentisiaethau, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu ein cyfleoedd prentisiaeth ledled Cymru, gan gynnwys yn sir Benfro, yn amlwg. A dros y tair blynedd nesaf, byddwn yn buddsoddi £366 miliwn i ddarparu 125,000 o brentisiaethau ledled Cymru, ac rydym yn gweithio gyda Busnes Cymru, tîm y Porth Sgiliau i Fusnes ac amrywiaeth o gyrff eraill, i sicrhau bod gwasanaeth effeithlon ar gael i gyflogwyr sy'n dymuno recriwtio prentis, felly byddwn yn gwneud y broses honno mor llyfn ac mor hygyrch i gynifer o'n dysgwyr ifanc â phosibl.