Cefnogaeth i Ddisgyblion ar ôl COVID

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 22 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:44, 22 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae hwn yn fater y gwn fy mod wedi'i godi gyda chi o'r blaen hefyd, a'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar fyfyrwyr yn sgil colli addysg yn ystod y pandemig. Ond hoffwn ofyn i chi i ba raddau y bydd y mecanweithiau a ddatblygwyd gennych i gynnig y cymorth ychwanegol hwnnw'n parhau ar ôl y pandemig, ar gyfer pethau eraill efallai, lle mae angen cymorth ychwanegol ar fyfyrwyr. Rwy'n meddwl yn arbennig am y cwricwlwm newydd wrth ystyried hynny hefyd.