5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad — Pedwerydd Adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 22 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:03, 22 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor safonau am eu gwaith ac am ystyried adroddiad y comisiynydd safonau. Rwy'n ymwybodol mai rôl cynrychiolwyr etholedig yw arwain drwy esiampl. Mae disgwyl i bob un ohonom gynnal y safonau uchaf, a thrwy gydol y broses hon, rwyf wedi derbyn fy mod wedi methu gwneud hynny drwy fy ngweithredoedd yn yr achos hwn. Hoffwn gofnodi yn y Siambr fy edifeirwch diffuant a fy ngofid mawr am fy ngweithredoedd a chadarnhaf fy mod wedi pledio'n euog ac wedi derbyn dyfarniad y llys. Ymddiheuraf yn ddiamod ac yn llwyr i chi, fy nghyd-Aelodau yn y Senedd, ac i bobl Cymru am y sefyllfa annifyr y rhoddais fy hun a'r sefydliad uchel ei barch hwn ynddi, ac rwyf am ymddiheuro wrth unrhyw un y mae fy ngweithredoedd wedi effeithio arnynt.