7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 22 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:50, 22 Mehefin 2022

Nawr, mi fuodd yna oedi o 13 awr cyn i swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru gyrraedd y lleoliad ar ôl codi’r larwm. Mi ddywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrthym ni mai'r rheswm am yr oedi oedd bod swyddogion yn ymateb i ddigwyddiadau llygredd eraill â blaenoriaeth uchel a bod pryderon hefyd ynghylch iechyd a diogelwch yr un swyddog oedd ar gael. Fe ddaeth ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru i'r casgliad nad oedd unrhyw obaith realistig o ffeindio unrhyw gwmni neu unigolyn yn euog o achosi'r llygredd, a fyddwn ni byth yn gwybod pa dystiolaeth y gallai fod wedi'i chanfod heb yr oedi cyn ymchwilio i’r digwyddiad hwn. Nawr, dwi ddim yn ailadrodd y manylion yma er mwyn bod yn feirniadol o Cyfoeth Naturiol Cymru a'i staff. Dwi'n gwybod bod staff Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’u digalonni’n llwyr fod y llygrwyr heb eu cosbi am y dinistr a achoswyd. Ond, wrth gwrs, mae'n enghraifft bwysig o beth yw gwir effaith diffyg adnoddau a diffyg capasiti.

Rhwng 2013, pan gafodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei greu, a 2020, mae cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gostwng mwy na thraean—mwy na thraean. Ac wrth i'w gyllideb fynd i un cyfeiriad, roedd y gwaith y gofynnwyd i'r corff ei wneud yn mynd i'r cyfeiriad arall. Dros y blynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi pentyrru cyfrifoldebau a dyletswyddau ychwanegol ar y corff. Nawr, dwi ac eraill fan hyn wedi gwneud yr achos dro ar ôl tro yn y Siambr yma, ac mewn gwahanol bwyllgorau, fod yn rhaid, felly, edrych o ddifrif ar gyllid Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r pwyllgor, felly, yn falch bod y Gweinidog o’r diwedd wedi penderfynu cynnal adolygiad sylfaenol, neu baseline review, i fapio dyletswyddau a swyddogaethau statudol Cyfoeth Naturiol Cymru yn erbyn ei gyllideb. Ac mae'n dda bod y Gweinidog wedi cydnabod bod cynnydd graddol wedi bod yn yr hyn y gofynnir i Cyfoeth Naturiol Cymru ei gyflawni.

Nawr, mae'r pwyllgor o'r farn bod angen mawr am yr adolygiad yma. Mi fuodd galw cynyddol gan randdeiliaid am adolygiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae rhai ohonyn nhw wedi dweud wrthym ni eu bod nhw'n colli hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau. Nid beirniadaeth o’r staff oedd hynny, ond jest mater o ddiffyg capasiti a diffyg adnoddau. Rŷn ni'n gobeithio felly y bydd yr adolygiad sylfaenol, ar ôl ei gwblhau, yn rhoi eglurder ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r math o sefydliad y mae'r Llywodraeth yn fodlon talu amdano fe.

Mae hwn felly yn ddatblygiad cadarnhaol iawn, ond roedd hi efallai yn siomedig, wrth edrych ar y print mân yn ymateb y Gweinidog, na fydd yr adolygiad, wrth gwrs, yn dod i ben tan ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022-23. Gallaf ddeall y rhesymeg dros yr amseru, ond mae'r cynnydd rŷn ni'n ei weld yn hyn o beth yn boenus o araf, ac mae gwir angen inni weld mwy o frys yn fan hyn, yn enwedig gan fod Aelodau wedi bod yn codi'r gofidiau yma ers blynyddoedd erbyn hyn, a dweud y gwir.

Wrth gwrs, dyw'r adolygiad sylfaenol yma ddim chwaith o reidrwydd yn golygu y bydd mwy o arian ar gael ar ddiwedd y broses. Rŷn ni fel pwyllgor wedi argymell bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y cyllid ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru yn gymesur â'i rolau a'i gyfrifoldebau, ac rŷn ni'n disgwyl gweld cynnydd priodol yng nghyllid Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn yr adolygiad sylfaenol. Mae'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad yma mewn egwyddor, wrth gwrs ei bod hi—pwy fyddai ddim, yntefe? Mae'n gwbl resymol disgwyl i unrhyw sefydliad gael ei ariannu'n briodol ar gyfer y gwaith y gofynnir iddo fo ei wneud, onid yw e? Ond, wrth gwrs, nid dyna fuodd hanes Cyfoeth Naturiol Cymru hyd yma. Dwi'n falch bod y Gweinidog wedi dweud wrthym ni ei bod hi'n agored i edrych ar lefelau cyllid a modelau ariannu fel rhan o'r adolygiad sylfaenol hwn, ond, heb ymrwymiadau yn y maes yma, wrth gwrs, wel, mae'r cwestiwn yn dal yna: ai ymarferiad academaidd yw hwn neu a welwn ni newid a gwahaniaeth gwirioneddol?

Mae cwpwl o bwyntiau yn cael eu codi yn yr adroddiad o safbwynt llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru. Mi wnaethon ni groesawu cyflwyno llythyr cylch gorchwyl ar gyfer tymor llawn y Llywodraeth. Mae hynny'n gam cadarnhaol iawn, ac mae e'n mynd i roi mwy o sicrwydd wrth gynllunio yn y tymor canolig, sydd wrth gwrs yn rhywbeth i'w groesawu. Mae fersiynau nesaf cynllun corfforaethol a chynllun busnes Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u gohirio, serch hynny. Ond, gan ein bod ni bellach yn gwybod na fydd yr adolygiad sylfaenol yn dod i ben tan ddiwedd y flwyddyn ariannol yna, dwi yn credu bod angen mynd i'r afael â hyn, ac mi fyddaf i, wrth gwrs, yn trafod hyn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru maes o law.

Fe ddywedwyd wrthym ni y bydd materion staffio yn cael eu hystyried yn sgil yr adolygiad sylfaenol, ac rŷn ni’n deall, wrth gwrs, fod hyn yn rhan angenrheidiol o'r broses. Ond dim ond yn ddiweddar y gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru fynd trwy broses ad-drefnu sefydliadol. Felly, rŷn ni yn pryderu y bydd cylch arall o ailstrwythuro yn ei gwneud hi'n anoddach fyth i Cyfoeth Naturiol Cymru ganolbwyntio ar ei waith craidd.

Nawr, dwi'n gobeithio fy mod i wedi ymdrin â phrif themâu ein hadroddiad ni yn yr amser sydd ar gael i mi, gan gofio mai hanner awr sydd gennym ni ar gyfer y ddadl yma prynhawn yma. Ond y cwestiwn nawr, felly, wrth gwrs, yw: ble mae hyn yn ein gadael ni erbyn hyn, wrth i ni agosáu at ddiwedd degawd cyntaf Cyfoeth Naturiol Cymru? Allaf i ddim credu fy mod i'n dweud hynny—agosáu at ddegawd o Cyfoeth Naturiol Cymru. Wel, mae rhywfaint o newyddion da. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn derbyn erbyn hyn bod bwlch wedi agor rhwng yr hyn y gofynnir i Cyfoeth Naturiol Cymru ei wneud a'r cyllid y mae'n ei gael. Mae hynny yn bositif. Mae camau cadarnhaol hefyd yn cael eu cymryd ynghylch trefniadau llywodraethu, fel roeddwn i'n dweud, yn enwedig o ran y llythyr cylch gwaith ar gyfer tymor llawn y Llywodraeth.

Ond, fel roeddwn i'n dweud yn gynharach, os edrychwch chi ar y print mân, efallai nad yw’r darlun mor gadarnhaol, yn yr ystyr na fydd yr adolygiad yn cael ei gwblhau tan ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac efallai na fydd cynnydd yn y gyllideb hyd yn oed ar ddiwedd y broses honno. Ac os na fydd yna gyllideb ychwanegol, wrth gwrs, yna, man lleiaf dwi'n gobeithio, y bydd y Llywodraeth yn barod i ddweud wrth Cyfoeth Naturiol Cymru beth does dim angen iddyn nhw ei flaenoriaethu wrth gyflawni eu dyletswyddau.

Ond, flwyddyn o nawr, beth bynnag, rwy'n gobeithio y byddaf yn dweud wrthych chi am ddyfodol gwahanol iawn i Cyfoeth Naturiol Cymru. Ond, rwy'n pryderu, er gwaethaf y synau cadarnhaol rŷn ni'n parhau i'w clywed, y bydd taith Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau, efallai, i fod yn heriol ac yn anodd. Ac os bydd hynny'n digwydd, yna, wrth gwrs, y cwestiwn dwi a'r pwyllgor yn ei ofyn yw: pwy a ŵyr faint yn rhagor o ddigwyddiadau y byddwn yn eu gweld fel yr un ar afon Llynfi? Diolch.