Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 22 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Nid yw'n gyfrinach fy mod wedi bod yn fy rôl ers dros flwyddyn, ac ar ôl cael sgyrsiau gyda nifer o aelodau o'r cyhoedd, cyrff amrywiol, sefydliadau amrywiol, y casgliad y deuthum iddo yw nad yw'r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru yn addas i'r diben. Boed yn sôn am ffyrdd, rheilffyrdd neu wasanaethau bysiau, y ffaith drist amdani yw bod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wedi llywyddu dros ddirywiad gwasanaethau a seilwaith.
Daw adeg pan na allwn barhau i feio San Steffan am faterion y mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn gyfrifol amdanynt. Ar ôl mwy nag 20 mlynedd mewn grym, mae Llafur Cymru wedi darparu ffyrdd llawn tagfeydd, gwasanaeth rheilffordd aneffeithlon ac annibynadwy a llai o fysiau'n gwasanaethu cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Rydym i gyd yn ddefnyddwyr ffyrdd, p'un a ydym yn gyrru, yn beicio neu'n teithio ar fws. Rydym i gyd yn dibynnu ar y rhwydwaith ffyrdd i'n cynnal gyda'r bwyd a fwytawn a'r cynhyrchion yr ydym i gyd yn eu prynu—caiff y cyfan eu cludo ar y ffyrdd.
Yn 2018, lluniodd ein Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ein hunain, yr oedd fy nhad yn aelod ohono, adroddiad o'r enw 'Cyflwr Ffyrdd yng Nghymru'. Rhybuddiodd yr adroddiad hwn bedair blynedd yn ôl, cyn COVID, fod y diffyg arian a'r diffyg blaenoriaeth i atgyweirio yn sefyll allan ac y bydd y ffyrdd sydd gennym yn dirywio heb gyllid digonol. Mewn tystiolaeth lafar, dywedodd y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau fod ffyrdd Cymru, ac rwy'n dyfynnu, 'yn dirywio'. Awgrymodd y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd fod
'y ffyrdd yn gwaethygu, yn enwedig lle bu gwaith clytio blaenorol.'
Ehangodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain y mater i ystyried tagfeydd yn ogystal â chyflwr, gan bwysleisio'r niwed sy'n cael ei wneud i'r economi gan gost oedi i weithredwyr cludo llwythi sy'n gweithio yn unol â slotiau cyflenwi wedi'u hamseru. Gwnaeth y pwyllgor nifer o argymhellion, ac roedd un ohonynt yn galw ar Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol i sicrhau bod blaenoriaeth a chyllid yn cael eu rhoi i gynnal a chadw ein rhwydwaith ffyrdd mewn modd costeffeithiol a hirdymor. Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru wedi osgoi'r her ac wedi methu darparu'r rhwydwaith ffyrdd modern, diogel y mae Cymru cymaint o'i angen.
Ddeuddeg mis yn ôl, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y byddai'r holl brosiectau adeiladu ffyrdd a gwella ffyrdd newydd yma yng Nghymru yn cael eu rhewi. Cafodd dros 50 o brosiectau i wella'r rhwydwaith ffyrdd, gan gynnwys rhydwelïau hanfodol fel yr M4, yr A55, ffordd osgoi Llanddewi Felffre a'r A470, eu rhoi ar stop. Ers cyhoeddi y byddent yn cael eu rhewi, rwyf wedi bod yn ceisio darganfod faint yn union o arian sydd wedi'i wario ar brosiectau sydd bellach ar stop. Efallai y byddech i gyd yn meddwl ei bod yn dasg syml. Nid yw hynny'n wir. Dywedodd y Dirprwy Weinidog, yn ei ymgais ddiweddaraf i gymylu pethau, dyddiedig 13 Mehefin 2022:
'Mae'r panel yn rhoi ystyriaeth ofalus i ystod o gostau a manteision yn eu trafodaethau, gan gynnwys amcangyfrif cost ariannol cynlluniau i Lywodraeth Cymru fel rhan o'u gwaith.'
Hoffwn wybod pam fod y Dirprwy Weinidog yn gwrthod rhoi ateb syml i fy nghwestiwn. Beth y mae'n ceisio ei guddio? Ai'r rheswm yw oherwydd bod miloedd, cannoedd o filoedd efallai, a meiddiaf ddweud miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr wedi'i wastraffu ar brosiectau na fyddant yn mynd rhagddynt o bosibl? Mae gan bobl Cymru hawl i wybod, fel sydd gan bob un ohonom sy'n eistedd yma yn y Siambr hon. Byddai dyhead y Dirprwy Weinidog i ddenu pobl o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus yn fwy credadwy pe bai bysiau a threnau yn opsiwn ymarferol mewn gwirionedd. Ond nid ydynt. Mae nifer y teithiau bws—[Torri ar draws.] Iawn. Fe gymeraf ymyriad.