Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 22 Mehefin 2022.
Rwy'n cytuno â theimladau fy nghyd-Aelod, Natasha Asghar. A minnau'n hanu o gymuned wledig, rwyf wedi gweld trafnidiaeth gyhoeddus dda iawn, ond yn llawer rhy aml, rwyf wedi gweld y gwaethaf o’r hyn sydd ar gael i bobl sir Benfro a sir Gaerfyrddin. Yn wir, os dilynwch gyngor Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ddefnyddio eich car, rydych yn gwbl ddibynnol ar amserlenni anghyson a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus anfynych. Ac i rai, dyna'r gwahaniaeth rhwng cyrraedd ar amser ar gyfer cyfweliad swydd, cyrraedd apwyntiad ysbyty pwysig, neu ddechrau shifft ar amser.
Nawr, mae rhywfaint o eironi gwrthnysig yn y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn galw ar fy etholwyr—ar ein hetholwyr ni—i roi'r gorau i ddefnyddio eu ceir a dal y bws yn lle hynny, ac eto, nid ydynt yn rhoi unrhyw gamau sylfaenol ar waith i sicrhau bod gwasanaethau trafnidiaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Nid yw'r naratif hwn yn adlewyrchu allbwn polisi a gweithredoedd Llywodraeth Cymru, a phan fydd Llywodraeth Cymru yn anochel yn methu, pobl leol sy'n talu'r pris.
Ond erbyn hyn, rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn gwybod am lefel yr anfodlonrwydd ymhlith pobl gorllewin Cymru, ac yn sgil y rhwystredigaeth hon, ffurfiwyd grŵp gweithredu ar reilffyrdd de sir Benfro, yn dilyn cyfarfod a gynullais ac a gynhaliais gyda defnyddwyr rheilffyrdd anfodlon o ganlyniad i wasanaethau trên annigonol rhwng Doc Penfro a Hendy-gwyn ar Daf a'r gorsafoedd rhyngddynt—Arberth, Dinbych-y-pysgod a Phenfro i enwi rhai yn unig. Parhaodd y defnyddwyr rheilffyrdd lleol hynny â’r drafodaeth, ac maent wedi dod ynghyd i lansio grŵp gweithredu ar reilffyrdd de sir Benfro, grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig sy’n gweithio’n drawsbleidiol i ymgyrchu am welliannau i gysylltedd rheilffyrdd i ac o fewn ardal wledig de sir Benfro. Ac eto, mae bodolaeth y sefydliad hwn ynddo'i hun, ac eraill tebyg a orfodwyd i ymffurfio yn sgil annigonolrwydd a diffyg gweithredu, yn gyfaddefiad uniongyrchol o fethiannau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â thrafnidiaeth.
Oherwydd oedi a chysylltedd gwael yng ngorllewin Cymru, mae pobl leol rwystredig wedi bwrw ati eu hunain i gyflawni newid, newid na ddylai fod yn angenrheidiol pe bai’r Llywodraeth hon yn credu mewn Cymru sy'n bodoli y tu allan i dde Cymru. Ond mae a wnelo hyn â mwy na dim ond mynd o X i Y. Pan fyddwn yn cysylltu trefi â phentrefi, a phentrefi â chymunedau, rydym yn gwneud mwy na sicrhau trafnidiaeth i leoliad ac oddi yno; rydym yn darparu ffyniant ac yn creu swyddi. Os gallwch deithio rhwng eich pentref a chanol y dref leol, rydych yn creu amrywiaeth eang o gyfleoedd newydd ar unwaith, nid yn unig ar gyfer yr unigolyn hwnnw, ond ar gyfer y lleoliad hefyd.
Ac rydym wedi gweld hyn yn uniongyrchol yn Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod. O ganlyniad i fethu teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i’r lleoliadau hyn, bu'n rhaid i fusnesau lleol ymdopi â phroblemau enfawr o ran cyflogi pobl, yn enwedig cyflogi pobl ifanc. Cafodd bwytai lleol drafferth i ailagor ar ôl y pandemig, nid oedd gan westai glan môr ddigon o staff i lanhau ystafelloedd, a gorfodwyd busnesau newydd i weithredu am lai o oriau. Er bod y sefyllfa hon wedi digwydd ledled y wlad, wrth inni gefnu ar ddwy flynedd o ynysu gorfodol, cafodd y broblem ei gwaethygu gan anallu busnesau i lenwi bylchau cyflogaeth, gan nad oes trafnidiaeth i ac o'r gwaith ar gael ar gyfer gweithwyr a gyflogir y tu allan i’r oriau gwaith traddodiadol rhwng naw a chwech o'r gloch.
Ac os ystyriwch nifer y swyddi sy’n gwasanaethu economi'r nos a’r diwydiant lletygarwch mewn trefi fel Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod, rydych yn dechrau deall maint yr her y mae’r methiant hwn yn ei chreu. Felly, dof yn ôl at y pwynt am wella cysylltedd trafnidiaeth wledig. Rydym yn trafod mwy na phwysigrwydd bysiau ar ein ffyrdd neu drenau ar ein traciau, rydym yn trafod y broblem ehangach a grëwyd yn sgil diffyg gweithredu gan y Llywodraeth, a'r modd y mae methiant i gefnogi rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwledig yn effeithio ar fusnesau, cyflogaeth a thwristiaeth. Pe bai Llywodraeth Cymru yn newid ei dull o weithredu ac yn buddsoddi yng ngwasanaethau trafnidiaeth gorllewin Cymru, gallem sicrhau bod pob cymuned wedi’i chysylltu, a newid rhagolygon a chyfleoedd bywyd y rheini sy’n byw yn y cymunedau hynny er gwell. Diolch.