Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 28 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid, yn ogystal â'r Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu at y gwaith o graffu ar Fil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r holl randdeiliaid a wnaeth gyfrannu i'r gwahanol ymgynghoriadau a lywiodd y Bil, yn cyfrannu tystiolaeth i'r broses graffu ac sy'n parhau i ymgysylltu drwy'r bwrdd strategaeth a gweithredu.