Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 28 Mehefin 2022.
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae ein strategaeth genedlaethol bum mlynedd, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn nodi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig a mathau eraill o drais. Nod ei chwe amcan yw sicrhau cefnogaeth gynhwysfawr i ddioddefwyr, lle bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.