Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 28 Mehefin 2022.
Wel, Llywydd, rwy'n llongyfarch Joyce Watson ar ei defnydd o'r cyfleuster y mae'r Comisiwn yn ei ddarparu er mwyn i Aelodau allu cynnal ymchwil i faterion o arwyddocâd lleol ac, yn ei hachos hi, o arwyddocâd cenedlaethol. Mae gen i gopi o'r adroddiad, felly, wrth gwrs, rwy'n awyddus iawn iddo gael ei ddarllen yn eang. Bydd yn sicr yn cael ei drafod gan gyd-Weinidogion yn y Cabinet. Mae'n cynnwys cyfres o gasgliadau o'r ymchwil ac, yn bwysig iawn, cyfres o gamau ymarferol y mae'n awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru ac eraill eu cymryd i sicrhau bod plant sy'n dioddef cam-drin domestig yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.