Cynllun Gweithredu Gwasanaethau Canser

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 28 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:12, 28 Mehefin 2022

Diolch am yr ateb yna. Dwi newydd fod yn noddi digwyddiad yn dathlu 20 mlwyddiant Cancer Research UK, a tra'n dathlu'r gwaith sydd wedi cael ei wneud drwy ymchwil i wella cyfraddau goroesi canser, mi oedd yna rybudd ein bod ni mewn perig o weld y cynnydd yn dod i stop rŵan. Mae effaith y pandemig, sy'n golygu bod pobl yn aros 16 gwaith yn hirach nac oedden nhw cyn COVID am rai profion diagnostig sylfaenol, a'r diffyg cynllun canser cenedlaethol dwi ac eraill wedi galw amdano fo ers cyhyd yn golygu ein bod ni mewn lle bregus. Rŵan, mae'r Llywodraeth, fel dŷn ni wedi clywed, yn dweud bod yna action plan newydd ar y ffordd. Dwi wedi clywed awgrym, yn gynharach, y gallai fo wedi cael ei gyhoeddi'r haf yma, neu fis Medi. Rydyn ni wedi cael cadarnhad eto rŵan mai drafft yn cael ei roi i'r Gweinidog erbyn mis Medi fydd o. Ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi, a Cancer Research UK, fod angen symud ar frys rŵan?