Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 28 Mehefin 2022.
Llywydd, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi fuddsoddiad pellach i gefnogi 1,200 o bobl ifanc i ddechrau eu busnesau eu hunain. Yn ogystal â chymorth ariannol uniongyrchol, mae'r cynllun hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad unigol, er enghraifft, drwy'r rhaglen Cyflawni, sydd ar gael i bobl ifanc yn sir Ddinbych.