4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 28 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:29, 28 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein camau i ymdrin â mater cymhleth a sensitif. Bydd Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi ymrwymo i ymdrin â diogelwch adeiladau yng Nghymru ac yn parhau i fwrw ymlaen â'n rhaglen adfer adeiladau, ochr yn ochr â rhaglen sylweddol o ddiwygio, i sefydlu gweithdrefn diogelwch adeiladau addas i'r diben yng Nghymru.

Wrth wraidd ein dull o adfer mae'r egwyddor y dylai datblygwyr gyfrannu at gostau datrys y problemau hyn, ac ni ddylai lesddeiliaid orfod talu am broblemau diogelwch tân nad ydyn nhw wedi eu creu eu hunain. Ers agor cronfa diogelwch adeiladau Cymru, rydym ni wedi derbyn 258 o ddatganiadau o ddiddordeb gan bersonau cyfrifol sy'n gwybod neu'n amau y gallai fod gan eu hadeilad ddiffygion diogelwch tân. 

Rydym ni wedi cwblhau arolygon digidol ar gyfer pob un o'r rhain ac wedi nodi 161 o adeiladau sydd angen gwaith arolygu ymwthiol arall. Bydd hyn yn golygu bod ein syrfewyr yn cynnal ymchwiliad manwl i faterion diogelwch tân mewnol ac allanol, fel cladin ac adraniadau. Mae'r gwaith wedi dechrau a bydd yn parhau dros yr haf.

Er ein bod yn parhau i dderbyn datganiadau o ddiddordeb, rwy'n deall bod rhai personau cyfrifol o hyd nad ydyn nhw wedi ymgysylltu ac sy'n dal i drosglwyddo costau i lesddeiliaid. Mae hyn yn siomedig dros ben, ac rwy'n annog unrhyw lesddeiliad yn y sefyllfa hon, sy'n gwybod neu'n amau bod materion diogelwch tân yn effeithio ar eu hadeilad, i gysylltu â fy swyddogion, a all eu cefnogi i ddatblygu datganiad o ddiddordeb.

Rwyf i wedi siarad â llawer o lesddeiliaid ac yn parhau i gwrdd â thrigolion mewn adeiladau y mae problemau diogelwch tân yn effeithio arnyn nhw ledled Cymru. Rwy'n ymwybodol iawn o effaith costau yswiriant uwch, taliadau gwasanaeth uwch, a'r anawsterau y mae pobl yn eu cael wrth ailforgeisio neu werthu eu cartrefi. Rwyf i wedi ysgrifennu at bob asiant rheoli yng Nghymru i'w gwneud yn glir fy mod wedi neilltuo £375 miliwn i dalu am gostau adfer adeiladau, ac rwyf i wedi datgan yn gyhoeddus dro ar ôl tro na ddylai lesddeiliaid dalu'r bil am ddiffygion diogelwch tân.

Rwyf i hefyd yn cymryd camau ar ddatblygwyr.  Roeddwn i'n siomedig iawn bod Llywodraeth y DU wedi dewis mynd ar drywydd ei haddewidion diogelwch adeiladu ar sail Lloegr yn unig, er gwaethaf nifer o gyfarfodydd lle'r oedd y Llywodraethau datganoledig yn ei gwneud yn glir mai dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan oedd y gorau i lesddeiliaid. Rwy'n falch o ddweud, fodd bynnag, ein bod ni wedi symud Llywodraeth y DU ar y pwynt hwn a'n bod ni hefyd wedi symud yn gyflym i weithredu dull tebyg yma yng Nghymru.

Rwyf i wedi ysgrifennu at ddatblygwyr a'u gwahodd i gwrdd â mi. Rwy'n falch o ddweud bod nifer o ddatblygwyr eisoes wedi cytuno i gyfarfod a thrafod eu cynlluniau. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi rhestr o ddatblygwyr sydd wedi dewis peidio ag ymgysylltu, ac rwy'n archwilio pa gamau eraill y gallai'r Llywodraeth hon eu cymryd gyda datblygwyr sy'n parhau i beidio ag ymgysylltu.

Rwy'n deall, serch hynny, i rai trigolion mewn adeiladau sydd wedi'u heffeithio arnyn nhw, na fydd y newidiadau hyn yn dod yn ddigon buan. Er mwyn cefnogi'r rheini sydd yng nghanol y caledi ariannol mwyaf brys, neu sydd yn ei wynebu, agorodd y cynllun cymorth lesddeiliaid ddoe ar gyfer ceisiadau. Bydd y cynllun newydd hwn yn darparu cyngor annibynnol yn benodol ar gyfer lesddeiliaid mewn cartrefi sydd wedi'u heffeithio. Mae'r pecyn cymorth wedi'i dargedu at lesddeiliaid sy'n berchen-feddianwyr, a'r rhai sydd wedi dod yn breswylwyr sydd wedi'u dadleoli. Fodd bynnag, byddwn ni'n monitro ceisiadau ac yn adolygu meini prawf cymhwysedd i sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth fwyaf yn cael cyfle i fanteisio ar y cynllun.

Bydd pob lesddeiliad sy'n gymwys ar gyfer y cynllun hwn yn cael cyngor gan gynghorydd ariannol annibynnol, gyda'r costau'n cael eu talu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cyngor yn eu cefnogi i wneud y dewis cywir iddyn nhw, gan gydnabod y bydd yr amgylchiadau'n wahanol i bob aelwyd. Os mai gwerthu eu heiddo yw'r llwybr cywir, bydd Llywodraeth Cymru yn eu galluogi i werthu eu heiddo am werth teg i'r farchnad. Mae canllawiau llawn ar y cynllun, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, nawr ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i'r partneriaid allanol ac arbenigwyr yn y sector sydd wedi ein cynorthwyo i ddatblygu'r cynllun hwn yn gyflym. Mae eu cefnogaeth a'u gwaith caled wedi bod yn hanfodol i sefydlu'r meini prawf cymhwyso cywir a'r prosesau cymorth.

Ochr yn ochr â'r rhaglen hon o gefnogi ac adfer adeiladau, rydym ni'n parhau i fwrw ymlaen â gwaith ar y newidiadau diwylliannol a'r diwygiadau deddfwriaethol sydd eu hangen i atal y sefyllfa hon rhag codi eto. Rydym ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd elfennau perthnasol o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 yn berthnasol yma yng Nghymru. Bydd y Ddeddf yn ein galluogi ni i ddiwygio'r system rheoli adeiladu, er mwyn helpu i atal trychineb fel Grenfell rhag digwydd eto. Mae'r Ddeddf hefyd yn cyflwyno nifer o ddarpariaethau pwysig sydd â'r nod o wella hawliau prynwyr cartrefi, gan gynnwys ymestyn hawliau gweithredu a chreu'r ombwdsmon cartrefi newydd.

Rwyf i eisiau sicrhau bod ein diwygiadau diogelwch adeiladau yn ymarferol ac yn hygyrch i bobl. Byddwn yn parhau i ymgymryd â chyfres o fesurau i ymgysylltu'n uniongyrchol â lesddeiliaid a thenantiaid er mwyn cael amrywiaeth eang o safbwyntiau preswylwyr. Bydd y gwaith hwn yn helpu i gryfhau llais y preswylydd ymhellach fel ei fod yn parhau i fod wrth wraidd ein datblygiad polisi.

Yn anffodus, nid oes atebion cyflym na hawdd, ac ni allaf i gyfaddawdu ar gyflawni'r ateb cywir, cynaliadwy. Mae unrhyw beth arall yn gadael y drws yn agored i faterion eraill sy'n codi. Mae'n bwysig bod y materion hyn yn cael eu datrys unwaith ac am byth. Rhaid i ni wneud hyn yn iawn i'w gael yn iawn nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Croesawaf i'r ymrwymiad parhaus gan Blaid Cymru i'r agenda hon ac edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth â'u Haelod dynodedig ar ein nod cyfunol, i sicrhau bod ein hadeiladau mor ddiogel â phosibl o'r cychwyn cyntaf. Diolch.