Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 28 Mehefin 2022.
Ataliwyd categoreiddio cenedlaethol yn 2020, a chadarnhaodd y canllawiau y bydd yn cael ei ddisodli gan broses hunanarfarnu gadarn lle rhennir arfer da ac yr eir i'r afael â methiant ar frys. Mae'r OECD wedi nodi rôl amlwg ar gyfer hunanarfarnu fel nodwedd o systemau ysgolion sy'n perfformio'n dda. Maen nhw wedi disgrifio o'r blaen sut y bydd disodli categoreiddio cenedlaethol â system hunanwerthuso gadarn yn rhoi trosolwg llawer mwy manwl o gryfderau gwirioneddol a meysydd ar gyfer gwella ysgol o'i gymharu â'r system codio lliw. Rwy'n falch ein bod wedi gallu manteisio ar eu cyngor wrth ddatblygu'r broses hunanarfarnu newydd.
Hunanwerthuso ysgolion fydd y man cychwyn ar gyfer yr holl waith gwerthuso a gwella. Anogir ysgolion i ymgorffori adolygiadau gan gymheiriaid yn eu hunanwerthusiad er mwyn datblygu diwylliant o bartneriaeth ymhellach. Bydd consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda phob ysgol i gytuno ar lefel o gymorth sydd ei hangen ar ysgolion a bydd yn cadarnhau i gyrff llywodraethu ysgolion y cymorth y byddan nhw'n ei ddarparu neu'n ei frocera. Bydd y dull hwn o wella ysgolion yn golygu y bydd angen i ysgolion barhau i fod yn agored ynghylch ble y maen nhw'n dymuno gwella, a chael mynediad at gymorth o ansawdd uchel gan gonsortia, awdurdodau lleol ac ysgolion eraill sydd wedi'u teilwra i'w hanghenion. Rwyf am iddyn nhw gydweithio â'i gilydd, nid i gystadlu er anfantais i'w dysgwyr. Bydd rhieni yn awr yn gallu cael gafael ar wybodaeth fwy diweddar, fanwl a llawn gwybodaeth drwy gael gafael ar grynodeb o flaenoriaethau gwella pob ysgol, a bydd cynlluniau datblygu pob ysgol hefyd ar gael i bawb eu gweld.
Mae sgyrsiau rhwng dysgwr, eu hathrawon a'u rhieni a'u gofalwyr yn allweddol. Rwyf felly wedi cyflwyno rheoliadau ar ddarparu gwybodaeth gan benaethiaid i rieni a gofalwyr, sy'n cynnwys disgwyliadau i ymgysylltu â rhieni a gofalwyr bob tymor, gan ganolbwyntio ar sut mae dysgwyr yn symud ymlaen, fel y gall y cartref a'r ysgol gefnogi gwelliant dysgwyr. Bydd atebolrwydd o fewn y system ysgolion yn parhau i gael ei gynnal drwy lywodraethu ysgolion yn effeithiol ac arolygu ysgolion yn fwy rheolaidd gan Estyn. O fis Medi ymlaen, bydd Estyn yn arolygu ysgolion o dan eu fframwaith newydd, sy'n cefnogi'r cwricwlwm newydd, gyda chynlluniau i gynyddu nifer yr arolygiadau o fis Medi 2024. Bydd yr ymrwymiad i gynyddu arolygiadau yn lleihau'r bwlch rhwng adrodd am ysgolion unigol, a sicrhau hefyd bod rhieni a dysgwyr yn gallu cael gwybodaeth gyfredol am eu hysgol.
Mae deialog broffesiynol effeithiol rhwng ymarferwyr ac ysgolion yn ffordd allweddol arall o godi safonau. Dyna pam ddoe y cyhoeddais gyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr weithio gyda'i gilydd o fewn a rhwng ysgolion a lleoliadau i ddatblygu a chynnal dealltwriaeth gyffredin o sut y dylai eu dysgwyr symud ymlaen. Mae'r trafodaethau hyn yn hanfodol i helpu dysgwyr i gael profiad cydgysylltiedig wrth iddyn nhw symud rhwng gwahanol ysgolion, ac i sicrhau tegwch ledled Cymru.
Ddechrau mis Mai, lansiwyd yr adnodd cenedlaethol ar gyfer gwerthuso a gwella Hwb, gan ddarparu canllawiau ac adnoddau ymarferol i ysgolion i gefnogi hunanarfarnu a gwella. Gan adeiladu ar hyn, rwyf hefyd wedi cyhoeddi deunyddiau ategol i ymarferwyr i gynorthwyo ysgolion wrth iddyn nhw gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ymarferol ar werthuso a gwella, dylunio'r cwricwlwm, dilyniant ac asesu—sy'n hygyrch ar Hwb i unrhyw ymarferydd.
Rhaid inni sicrhau bod ein cwricwlwm trawsnewidiol yn cyflawni ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i'n cynnig dysgu proffesiynol fod yn hygyrch i bawb. Rydym yn parhau i weithio gydag athrawon ac eraill yn y system addysg i gwblhau ein hawl genedlaethol i ddysgu proffesiynol, yn barod ar gyfer yr hydref, y bydd arweinwyr ysgolion, athrawon a chynorthwywyr addysgu i gyd yn elwa arni. Cynnig gwirioneddol genedlaethol, ac un a fydd yn haws ei lywio. A chyn hynny, rwy'n disgwyl i'n consortia rhanbarthol ddarparu'r trefniadau mynediad cyffredin, fel y gall gweithiwr addysgu proffesiynol mewn unrhyw ran o Gymru gael mynediad ar-lein i'r cynnwys dysgu proffesiynol sydd ar gael gan y consortia mewn unrhyw ran arall o Gymru.
Ac er mwyn cefnogi ein hawl genedlaethol i ddysgu proffesiynol, rwyf hefyd yn ceisio parhau â'r diwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol yn y flwyddyn academaidd nesaf, er mwyn rhoi'r amser a'r lle sydd eu hangen ar arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion i wneud hyn yn iawn, oherwydd rwyf i, ynghyd â'r proffesiwn, eisiau gweld system addysg sy'n cynnig safonau a dyheadau uchel i bawb.