Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 28 Mehefin 2022.
Felly, o ran eich ail bwynt yn gyntaf, ydym, rydym ni yn ymgysylltu ar sut i edrych ar drefniant tymor hwy ar gyfer cyfleusterau HGV, ac nid yw hynny mor syml ag y byddwn i'n dymuno iddo fod, ond byddaf yn falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod am y cynnydd yr ydym ni'n ei wneud ac ar y gost. Ni fydd y gost ddylunio cymaint ag £1 filiwn—dyna fy nisgwyliad i. Mae'n agos i'r ffigur hwnnw, a bydd hynny'n ychwanegol at y £6 miliwn o arian a wariwyd eisoes.