Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 28 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad heddiw.
Mae lleoedd i'n plant a'n pobl ifanc ni chwarae a chwrdd â'u ffrindiau mor bwysig. Mae clybiau a grwpiau ar hyd a lled Cymru sy'n darparu'r lleoedd hyn, rhai fel y Gwasanaeth Cyfranogi Ymgysylltu â Phobl Ifanc, sy'n cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol, ac eraill yn y trydydd sector a'r sector gwirfoddol, fel Minis a Juniors Tylorstown, Pêl-rwyd Rhondda, Plant y Cymoedd, a Ffatri'r Celfyddydau yn fy etholaeth i. Gan wybod y gwahaniaeth y gwnaeth yr Haf o Hwyl i fywydau plant a phobl ifanc yn y Rhondda y llynedd, ni allwn i fod yn hapusach o glywed y datganiad heddiw, ac mae hi mor bwysig ein bod ni'n datblygu'r llwyddiant hwn. Fel un o ymddiriedolwyr elusen gofrestredig yr wyf i wedi'i chreu yn y Rhondda, rwy’n dal i ymddiddori'n fawr mewn prosiectau fel yr Haf o Hwyl. Pa drafodaethau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael gyda'n hawdurdodau lleol a'n cydweithwyr yn y trydydd sector yn dilyn yr Haf o Hwyl y llynedd? A sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau ein bod ni'n cael y gorau o'r Haf o Hwyl eleni, o ystyried argyfwng costau byw'r Torïaid?