Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 29 Mehefin 2022.
Mae'n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Nid yw fy ngwybodaeth am Eurovision gystal â'ch un chi, Natasha, ond nid oedd fy enw i lawr i siarad am hyn yn wreiddiol, ond rwy'n falch fy mod o'r diwedd wedi penderfynu cyfrannu heddiw.
I'r rhai sy'n ei ddilyn, mae Eurovision yn ennyn ymdeimlad o ddathliad, diwylliant, cystadleuaeth, creadigrwydd, cyfeillgarwch, oll wedi'u cyfuno mewn un digwyddiad blynyddol. Cyfrinach apêl dorfol drawsffiniol Eurovision yw'r cymysgedd rhyfedd o eironi camp a drama. Ar wahân i ddigwyddiadau chwaraeon, Cystadleuaeth Cân Eurovision yw un o'r digwyddiadau teledu rhyngwladol blynyddol mwyaf poblogaidd yn y byd, ac mae'n denu 600 miliwn o wylwyr bob blwyddyn. Yn dilyn sgyrsiau gan Undeb Darlledu Ewrop yn y 1950au i gysylltu gwledydd o fewn yr undeb yn ystod y cyfnod ar ôl yr ail ryfel byd, mae'r gystadleuaeth wedi cael ei darlledu bob blwyddyn ers y digwyddiad cyntaf ym 1956.
Am y tro, nid yw gwledydd NATO mewn rhyfel uniongyrchol gyda Rwsia, ond rydym mewn cyfnod o ryfel, ac mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i gefnogi. Yn y cyd-destun hwn, mae'n sicr ein bod wedi cael ein hatgoffa o ba mor bwysig y gall digwyddiadau fel Eurovision fod. Cyrhaeddodd ymgais y DU yn y gystadleuaeth eleni yr ail safle, yn agos i Wcráin ar y brig. Gyda llawer o bryderon diogelwch, mae sgyrsiau ar y gweill am logisteg cynnal y gystadleuaeth yn Wcráin. Yn ddealladwy, nodwyd ei bod yn annhebygol o fod yn ddigon diogel iddi ddigwydd yn Kyiv neu Lviv, neu unrhyw ddinas arall yn Wcráin yn wir, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud bod Cymru'n barod i'w chynnal yn enw Wcráin y tro hwn.
Er gwaethaf yr argyfwng costau byw parhaus, mae caredigrwydd a pharodrwydd pobl Cymru wedi bod yn ddiwyro tuag at bobl Wcráin. Rydym wedi gweld gwaith gwych Urdd Gobaith Cymru, sydd wedi cartrefu a chefnogi ffoaduriaid mewn llond llaw o'u lleoliadau ledled y wlad. Felly, er bod ein lluoedd arfog yn parhau i fod yn absennol o feysydd brwydrau Donbas, rhaid inni edrych ar ffyrdd eraill y gallwn gario neges o obaith i Wcráin. Gallai Eurovision a drefnwyd yng Nghymru arwain at roi'r elw i elusen, a dosbarthu tocynnau am ddim i ffoaduriaid yma yng Nghymru. Mae cyfle gwirioneddol i wneud 2023 yn flwyddyn cyfeillgarwch o'r newydd.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae Wcráin wedi dangos penderfyniad a chadernid i ymladd dros ryddid a democratiaeth yma yn Ewrop. Ni waeth ble na phryd y cynhelir yr Eurovision nesaf, mae hwn yn gyfle arall inni ymuno i gefnogi ei phobl ac anfon neges galed a chryf i Rwsia. Ni fydd ymgyrch ryfel Rwsia ar bridd Ewropeaidd yn mynd heb ei chosbi. Bydd Putin a'i gadfridogion milwrol yn talu am y troseddau rhyfel y maent wedi'u cyflawni, a bydd Cymru a'r Deyrnas Unedig yn sefyll yn gadarn gyda'u cynghreiriaid o Wcráin nes bod pob tanc, milwr, awyren ryfel a llong forol wedi gadael Wcráin am byth. Rwyf am orffen drwy ddyfynnu Konrad Adenauer, pan ddywedodd
'Pan fydd y byd yn ymddangos yn fawr ac yn gymhleth, mae angen inni gofio bod pob delfryd wych fyd-eang yn dechrau mewn cymdogaeth leol.'
Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi dangos hynny go iawn. Diolch.