9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:28, 29 Mehefin 2022

Wel, mi ydyn ni wedi gallu efo Junior Eurovision, ac mae hi yn bosibl newid rheoliadau o’r fath, oherwydd pam lai ddathlu’r holl amrywiadau? Mae yna alw yna i ni fod yn mynd ati i edrych ar hynny, oherwydd mi ddylem ni fod yn gallu cystadlu, ac mae yna ffyrdd hefyd i sicrhau bod hynny’n bosibl. Os ydy’n bosibl efo Junior Eurovision, mae’n bosibl newid y rheoliadau i ni fod yno yn Eurovision, ac mae gen i hyder y gallai Cymru fod yn ennill.

Felly, dwi’n falch iawn o fod yn cefnogi hwn, ac yn annog pawb i uno hefyd o ran ein gwelliant. Mae yna gymaint o fanteision economaidd i ni ddathlu Cymru yn rhyngwladol drwy’r cyfle yma, a dwi’n gobeithio y medrwn ni uno ar rywbeth a fyddai’n bositif a chadarnhaol i Gymru, y Gymraeg, hefyd, oherwydd mae’n bosibl y byddem ni’n gweld y Gymraeg yn Eurovision. Felly, pam lai mynd amdani? Diolch.